![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) |
![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) |
Teithio i'r Steddfod Cynghorion i eisteddfodwyr |
![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) |
![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) |
![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) |
Rhybuddiwyd eisteddfodwyr i feddwl yn ofalus am eu trefniadau teithio ar gyfer eu hymweliad ag Eisteddfod yr Urdd.
Disgwylir i ddydd Llun fod yn arbennig o brysur yn y Brifddinas a hithau nid yn unig yn ŵyl y banc ond hefyd yn ddiwrnod gemau pêl-droed ail-gyfle FA Coca Cola yn Stadiwm y Mileniwm.
Cau ffyrdd: Bydd ffyrdd canol dinas Caerdydd i gyd yn cael eu cau o amser cinio ymlaen.
Ar ben hynny bydd y ffyrdd o amgylch Canolfan y Mileniwm ac ym Mae Caerdydd wedi eu cau drwy'r dydd.
Bysiau a threnau:Mae'r Urdd a Chyngor y Ddinas yn cynghori pobl i ddefnyddio bysiau neu drenau yn hytrach na'u ceir.
Bydd mwy o wybodaeth am drafnidiaeth ar gael ar - 0870 608 2 608 gyda gwybodaeth am drafnidiaeth ledled y ddinas a chysylltiadau o Orsaf Fysiau Canol Caerdydd i rannau eraill o Gaerdydd ac i bob cwr.
"Gan fod Gorsaf Fysiau Canol Caerdydd hefyd yn gartref i brif orsaf drenau Caerdydd, bydd trenau'n rhedeg oddi yma ar deithiau lleol, ledled Cymru a rhwydweithiau eraill ledled Prydain.
"Gall pob un sy'n teithio i'r Eisteddfod ar drên ddefnyddio, am ddim, eu tocyn o orsaf Canol Caerdydd - ddwy ffordd - ar fws Blue Bay Express rhif 6 sy'n rhedeg bob deng munud o gefn yr orsaf," meddai datganiad gan yr Urdd a'r Cyngor.
Ymhellach, mae gwasanaethau trenau uniongyrchol i Fae Caerdydd o orsaf drenau Queen Street.
Mwy o wybodaeth:Gallwch ddod o hyd i fwy o wybodaeth am wasanaethau trenau ar wefan .
Parcio: "I'r rhai fydd yn teithio i Ganolfan Mileniwm Cymru gyda char, y cyngor gorau yw ceisio rhannu ceir am mai dim ond nifer gyfyngedig o lefydd parcio sydd ar gael yn agos i Ganolfen Mileniwm Cymru," rhybuddir.
. "Bydd y mannau parcio hyn wedi eu harwyddo o'r Peripheral Distribution Road (PDR) / A4232 ring road ar ôl twnnel Butetown."
Bydd gwasanaeth Park and Ride yn rhedeg o Leckwith (o ddydd Mawrth Mai 31 i tan ddydd Gwener Mehefin 3) o 9.30yb hyd at chwech y nos, wedi ei arwyddo o'r A4232.
Y mannau codi a gollwng fydd y Flourish wrth ymyl mynedfa'r Eisteddfod.
Bydd mwy o wybodaeth am drafnidiaeth ar gael yn y wasg leol a'r cyfryngau a hefyd ar wefan y Cynulliad Cenedlaethol.

|
|