|
|
|
Ceisio Camp Lawn Rhagwelir y bydd mwy nag erioed o bobl yn mynychu Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd eleni. |
|
|
|
A hynny diolch i'r arbrawf o'i chynnal yn y Bae yng Nghaerdydd lle bydd iddi wedd cwbl wahanol i'r gorffennol.
A chafodd y gweithgarwch tuag at gynnal yr ŵyl ei gymharu i ymgyrch Mike Ruddock tuag at ennill y gamp lawn gan gadeirydd yr urdd, Rhiannon Lewis.
Yn siarad mewn cynhadledd i'r wasg ddydd Sul dywedodd fod pethau'n edrych yn ddu iawn ar yr Urdd yn 2001 gydag eisteddfod Caerdydd y flwyddyn honno wedi ei hepgor.
Ond er gwaethaf hynny llwyddwyd, meddai i gynnal gŵyl deledu lwyddiannus - honno oedd gêm Mike Ruddock yn erbyn Lloegr a'r holl ofnau y byddai'n colli.
Wedyn daeth y gemau yn erbyn yr Eidal, Ffrainc a'r Alban - eisteddfodau Caerdydd, Margam a Môn a fu eto'n llwyddiannau ysgubol.
Ond y gêm fawr yn erbyn Iwerddon i'r Urdd yw yr eisteddfod arbrofol hon yn y Bae.
"Mae wedi bod yn gêm anodd ei threfnu ond mae'n mynd i fod yn gêm lwyddiannus. Mae'n debyg mai geiriau Mike Ruddock fyddai, ei fod yn 'dawel hyderus' ac mae'r Urdd hefyd yn dawel hyderus - yn wir yr ydym yn gorlifo o hyder y bydd yr eisteddfod hon yn llwyddiant," meddai.
Cyfle gwych Y syniad o arbrawf sy'n cael ei bwysleisio dro ar ôl tro gan drefnwyr yr eisteddfod.
Meddai Sian Eirian, cyfarwyddwr eisteddfodau a gwyliau yr Urdd: "Dros y blynyddoedd diwethaf, mae'r Eisteddfod wedi tyfu a datblygu'n barhaol, gan arbrofi ac arloesi mewn nifer o ffyrdd," meddai Sian Eirian.
"Bydd eleni'n gyfle gwych i roi cynnig ar fformat hollol wahanol. Mae ardal y Bae yn ddelfrydol, gyda Chanolfan y Mileniwm fel canolbwynt. Rydan ni'n gobeithio denu mwy o ymwelwyr nag erioed o'r blaen i brofi bwrlwm yr Urdd," meddai.
Am y tro cyntaf bydd cystadleuwyr yn perfformio ar lwyfan proffesiynol yn adeilad mwyaf newydd Cymru - Canolfan y Mileniwm,
Bydd maes Ond dywedodd Sian Eirian na fydd eisteddfodwyr yn cael eu hamddifadu o'r profiad o 'faes'.
"Bydd myrdd o weithgareddau ar y maes fel arfer, a digon i gadw'r teulu cyfan yn hapus o fore gwyn tan nos," meddai.
Bydd gweithgareddau hefyd ar lwyfannau'r Lanfa a'r Angorfa yng nghyntedd Canolfan y Mileniwm bob dydd.
"Mae llwyfan hefyd ger y Ganolfan Groeso ar Plass Roald Dahl, fydd eto yn rhan o'r maes, a bydd hwnnw'n fwrlwm o weithgaredd gydol y dydd hefyd," meddai.
Dywedodd Efa Gruffudd Jones, prif weithredwr yr Urdd, mai'r nod yr wythnos hon fydd dangos fod modd i bawb, nid plant yn unig, fwynhau diwylliant Cymraeg.
Gan gyfeirio at y cyngerdd agoriadol uchelgeisiol nos Sul dywedodd Tudur Dylan Jones ei bod yn anrhydedd i hufen y mudiad gael perfformio ar lwyfan Canolfan y Mileniwm.
"Ond mae hi hefyd yn fraint i'r Ganolfan gael yr holl dalent yma ar ei llwydan," ychwanegodd.
|
|
|
|
|
|