|
|
|
Cyhoeddi llwyddiant Yr Urdd yn hapus - gwahaniaeth barn ar y Maes |
|
|
|
Er nad oedd neb am ddweud hynny i sicrwydd y tebygrwydd yw y bydd Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd yn dychwelyd i Gaerdydd ymhen pedair blynedd.
Ond, er nad oes amheuaeth i'r mudiad gael ei blesio'n fawr gan yr hyn a ddigwyddodd yr wythnos diwethaf, yr oedd gwahaniaeth barn ar y Maes ei hun gyda rhai yn edrych ymlaen at gael "mynd yn ôl i gae" yn Rhuthun y flwyddyn nesaf.
Wedi'r bwrlwm yng Nghaerdydd bydd yr Urdd yn awr yn ystyried yn ofalus bopeth a ddigwyddodd ac a ddywedwyd yn ystod yr wythnos yng Nghaerdydd - ond go brin bod angen dewin i ddehongli sut mae'r gwynt yn chwythu ymhlith penaethiaid y mudiad.
"Rwy'n mawr obeithio y byddwn ni yn ôl yma yn 2009," meddai Cyfarwyddwr yr Eisteddfod, Siân Eirian.
Profiad arbennig "Mae'n haelodau ni wedi cael profiadau arbennig a bythgofiadwy yr wythnos hon ar un o lwyfannau gorau'r byd," meddai.
Ond ychwanegodd y bydd yr Urdd yn ymgynghori'n fanwl ag aelodau, cystadleuawyr, gwirfoddolwyr a stondinwyr fel y gall Cyngor y mudiad ddod i benderfyniad.
Yn ystod ei ymweliad ef â'r eisteddfod dywedodd y prif weinidog, Rhodri Morgan AC, fod gan yr Urdd "yr hawl" i ddychwelyd yn 2009 ond ychwanegodd na fydd yr holl le oedd ar gael eleni ar gyfer stondinwyr ar gael erbyn hynny.
"Lle'r ydym ni'n sefyll yn awr fe fydd yna multi-storey mawr, er enghraifft," meddai.
Bydd yr holl bethau hyn yn bethau y bydd yr Urdd yn eu hystyried cyn dod i benderfyniad meddai Sian Eirian a gyfeiriodd at ofod posibl ynglÅ·n ag adeilad newydd y Cynulliad a fydd wedi ei gwblhau erbyn hynny.
Ymhlith llawer o eisteddfodwyr yr oedd barn gweddol bendant mai'r ochr eisteddfodol i'r ŵyl a weithiodd orau gyda phawb wedi rhyfeddu at yr awyrgylch yng Nghanolfan y Mileniwm wrth i gefnogwyr ac ymwelwyr feddiannu'r cyntedd a chystadleuwyr yn ymarfer yn y we o goridorau a thryblith o gilfachau y tu cefn i'r llwyfan gan greu ysbryd nas gwelwyd erioed cynt yng nghyffiniau pafiliwn Steddfod.
Yr oedd neuadd yr Eisteddfod hefyd bob amser yn brysur a rhesi parhaus o bobl yn disgwyl mynediad.
Ond "rheswm da pam - does yna ddim byd arall i'w wneud yma," oedd sylw mwy nag un ymwelydd gan gyfeirio at brinder stondinau ar y maes o amgylch Canolfan y Mileniwm.
Efallai mai Dafydd Morgan Lewis, yn ei stondin gwag, mewn rhan ddiarffordd o'r maes a fedyddiwyd yn Death Row a grynhodd yr ochr honno i bethau fwyaf effeithiol.
"Efallai bod hwn yn lle delfrydol i gynnal Steddfod," meddai, "ond mae o'n anobeithiol ar gyfer cynnal gŵyl!"
Ond yr oedd hi yn eisteddfod - yn arbrawf - a lwyddodd i dynnu yn agos iawn i'r can mil o bobl a broffwydwyd gan yr Urdd gyda nifer yr ymwelwyr ar y dydd Llun cyntaf ddwy fil yn fwy nag â ymwelodd â Maes Mona y llynedd.
Ond fe fydd rhywfaint o siom na chyrhaeddwyd y nod honno o 100,000 gydag arbrawf a ystyriwyd mor bwysig.
Dyma'r ffigirau swyddogol am yr wythnos: Llun - 21,382 Mawrth - 24,687 Mercher - 13,829 Iau - 16,509 Gwener - 13,927 Sadwrn - 6,251
96,585 i gyd.
Chwa o Gymreictod A phe na bai'r wythnos hon wedi gwneud dim arall daeth a chwa o Gymreictod i Ganolfan y Mileniwm a fu dan feirniadaeth ers ei agoriad am fod yn sefydliad Seisnig.
Yr oedd y Seisnigrwydd hwnnw yn rhywbeth a feirniadwyd gan Huw Llywelyn Davies, llywydd dydd Sadwrn yr Eisteddfod, wrth siarad â'r Wasg.
Galwodd ef am fwy o sylw nag a gafodd hyd yn hyn i ddiwylliant Cymru yn y ganolfan.
Ac, yn wir, yn dilyn ei sylwadau gwelwyd prif weithredydd y ganolfan yn cyfaddef yn y wasg nad oedd hi wedi rhagweld maint y teimlad tuag at y Gymraeg nes i'r Urdd gyrraedd yno.
|
|
|
|
|
|