|
|
|
Caerdydd - nid ni a nhw Galw am wneud Caerdydd yn brifddinas i fod yn falch ohoni |
|
|
|
Apêl am iddi beidio a mynd yn frwydr rhwng gweddill Cymru a Chaerdydd oedd un Dafydd Iwan, un o lywyddion dydd Gwener yn yr Eisteddfod.
"Mae'n bwysig, lle bynnag yr ydym yn byw ein bod yn ymfalchïo yn llwyddiant Caerdydd sydd yn byrlymu o fywyd ac o gyffro," meddai.
"Does dim rhyfedd ei bod yn denu pobl ifainc - ymfalchïwn mewn prifddinas y gallwn fod yn falch ohoni," meddai.
"Nid mater o Gaerdydd yn erbyn y gweddill ddylai hi fod," meddai.
Cymeradwyodd y syniad o'r naill yn bwydo oddi ar y llall a chynnal ei gilydd a'r syniad o bobl ifainc wedi elwa ar brofiadau yng Nghaerdydd ac yn eangach yn dychwelyd i'w cymunedau.
Pwysleisiodd hefyd bwysigrwydd symud swyddi da o Gaerdydd er mwyn atgyfnerthu'r cymunedau gwledig.
Ond tra'n dweud y dylai Cymru gyfan ymfalchïo ym mwrlwm a chyffro ei phrifddinas dywedodd ei bod yn bwysig hefyd fod swyddi'n cael eu symud o Gaerdydd er mwyn atgyfnerthu'r cymunedau gwledig.
Serch hynny, rhybuddiodd nad prinder gwaith yw problem yr ardaloedd gwledig bellach ond prinder pobl gyda llai o enedigaethau a'r ffaith fod pobl yn byw yn hÅ·n yn creu cymdeithas anghytbwys.
"Ond wrth symud swyddi da da yno bydd pobl yn eu dilyn gan greu awyrgylch lle bydd sector breifat a chyhoeddus yn llwyddo," meddai.
Mwy o wybodaeth am lywyddion y dydd
|
|
|
|
|
|