|
|
|
Coron Urdd 05 Beirniaid yn coroni arbrofi |
|
|
|
Ar ôl iddi ennill yr ail, trydedd, pedwaredd, pumed a'r chweched gwobr yn ei heisteddfod ysgol yr aeth enillydd Coron yr Urdd eleni i gyfansoddi un o'i hymgeision ar gyfer y gystadleuaeth.
Dywedodd Llinos Dafydd iddi fod mor siomedig na chafodd gyntaf fel y cyfansoddodd ddarn dychanol am lwgrwobrwyo beirniad!
Yng nghystadleuaeth yr Urdd gofynnwyd am dri darn o ryddiaith ac medda Emyr Davies, wrth draddodi'r feirniadaeth: "Gwawdio'r byd llenydda a chystadlu mae'r ail ddarn mewn ffordd ddeifiol."
Disgrifiwyd Llinos ganddo ef a'i gyd feirniad, Gwyneth Glyn, fel "awdur mwyaf gwreiddiol y gystadleuaeth" gyda thri darn cwbl wahanol i'w gilydd.
Ac yr oedd y ddau yn darogan dyfodol llewyrchus i'r sgwenwraig ugain oed a aeth yn syth o'r ysgol at Golwg yn newyddiadurwraig dan hyfforddiant.
"Diddorol oedd edrych ar gyfansoddiadau ugain mlynedd yn ôl ym 1985 a gweld mai Bethan Evans, neu Bethan Gwanas, oedd yr enillydd bryd hynny. Gobeithio y caiff awdur buddugol 2005 gyfle i fynd ymlaen i'n difyrru a'n herio yn yr un modd," meddai Emyr Davies.
Dywedodd Llinos ei hun mai awdur yn chwilio am ei llais yw hi ar hyn o bryd ac yn hoff iawn o arbrofi gyda gwahanol ffurfiau.
"Rwy'n lico arbrofi - mae bob stori rydw i wedi wneud, mae nhw mor arbrofol a gwahanol i'w gilydd. Allai ddim dweud fod un arddull gen i - rwy'n trio ffindo fy llais," meddai.
Yn wir, gyda'i darn cyntaf ar gyfer y gystadleuaeth hon lluniodd ymson putain gan arbrofi gyda defnyddio'r gynghanedd o fewn rhyddiaith.
Dywedodd iddi ddewis putain yn wrthrych er mwyn er mwyn cael ymson gwahanol i'r arferol trwy orfod dychmygu beth fyddai meddyliau merch o'r fath.
"Dychymyg yw llenydda yn y bôn ac os nad oes gennych chi ddychymyg does dim gobaith 'da chi," meddai.
Deunaw ymgeisiodd am y Goron ac yn ôl Emyr Davies "y pynciau dwysaf" sydd yn tanio dychymyg hyd yn oed llenorion ifainc Cymru.
"Marwolaeth, salwch, cam-drin, gorffwylledd ac yn y blaen," meddai.
"Er hynny, roedd rhai awduron, y goreuon ar y cyfan, wedi dangos eu bod yn gallu ysgrifennu'n ddigri ac yn ddychanol," ychwanegodd.
|
|
|
|
|
|