|
|
|
Ail wobr i Americanes O'r Gymanfa i Abertawe |
|
|
|
Yr oedd un o'r cystadleuwyr wedi teithio yr holl ffordd o'r Unol Daleithiau ar gyfer yr unawd mezzo-soprano dros 25 oed yn Eisteddfod Genedlaethol Abertawe.
Yn dod o Youngstown, Ohio, yn wreiddiol, mae Megan Elizabeth Morris yn awr yn byw yn Austin Texas a hi oedd yn fuddugol mewn cystadleuaeth yn Ngŵyl Cymry Gogledd America - yr hen Gymanfa ganu Gogledd America - y llynedd a thrwy hynny sicrhau nawdd i gystadlu yn yr Eisteddfod Genedlaerthol yng Nghymru eleni.
Gyda hi ar faes yr Eisteddfod yr oedd ei thad a'i mam a'i nain.
Sicrhaodd ail wobr yn y gystadleuaeth.
Y mae Megan o dras Cymreig o ochr ei mam gydag un o'i chyndeidiau, Danny Lewis, wedi mudo i Ohio yn Nauddegau y ganrif ddiwethaf a sefydlu y Druid Club yno.
Datblygodd hwnnw yn Gymdeithas Gymreig Ohio sy'n dal mewn bodolaeth heddiw.
|
|
|
|
|
|