|
|
|
Steddfodau Hywel Eleni mae Hywel Gwynfryn yn dathlu deugain mlynedd o ddarlledu o'r Eisteddfod Genedlaethol. Ond y mae ei atgofion eisteddfodol yn mynd yn ôl ymhellach na hynny fel y dywed isod . . . |
|
|
|
'Roedd hi'n dipyn o frwydr. Y bachgen pedair ar ddeg oed yn erbyn y ci. Y fo yn ceisio adrodd Rownd yr Horn, Seimon B. Jones:"Furl the Royals!"
Ac ymhen bachigyn, roedd chwech ohonom fry yn y rigin', yn dringo a chroesi fel brain ar goed- a'r ci y tu allan i ffenest y Neuadd yn udo fel tae'i gynffon o ar dân.
Y bachgen enillodd (er bod ei ffrind yn credu fod mynegiant, a thonyddiaeth y ci yn llawer gwell).
Hanner coron oedd fy ngwobr. Y wobr gyntaf erioed i mi ei hennill mewn unrhyw eisteddfod.
Llwyddiant Teitanaidd Y flwyddyn ganlynol, 1957, 'roedd yr Eisteddfod Genedlaethol yn Llangefni, a finna' wedi cael rhan Meffiboseth yn nrama gomisiwn Cynan, Absalom fy Mab.
'Roedd y cynhyrchiad bron mor llwyddiannus a mordaith gynta'r Titanic.
Fedrwn innau yn fy myw a chofio a oedd fy nghoes chwith neu fy nghoes dde yn gloff. Felly 'roeddwn yn amrywio'r cloffni yn ôl mympwy bersonol.
Roeddwn i'n cloffi'n eiriol hefyd ac fe'm bedyddiwyd yn Mess-o-bopeth gan aelodau'r cast.
Eisteddodd Cynan yng ngaleri y Town Hall ar gyfer noson agoriadol ei orchestwaith.
Gwae! Gwae! A theirgwaith gwae!. Rhwygwyd y nen gan daranau, disgynnodd y glaw ac aeth golau'r neuadd allan ar ôl yr act gyntaf a Chynan allan ar ôl yr ail!
(Dwi'n gwybod mai "diffodd y golau" ydi'r ymadrodd iawn ac nid y gola' yn "mynd allan" ond am unwaith 'dwi di aberthu cywirdeb iaith er mwyn effaith dramatig- oedd yn brin iawn y noson honno.)
Fel darlledwr Eisteddfod Aberafan 1966 oedd fy eisteddfod gynta' fel darlledwr. Dic Jones yn medi yr hyn oedd o wedi ei hau ac yn ennill y gadair efo'i awdl i'r Cynhaeaf, un o awdlau mwyaf adnabyddus a llwyddiannus y ganrif.
Dafydd Jones enillodd y goron a gŵr efo'r un enw yn dod yn ail hefyd - oherwydd yr un person oedd o.
Gwisg werdd Rhywbryd yn y saithdegau fe gefais fy anrhydeddu gan yr Orsedd efo gwisg werdd a chofiaf yn dda fy mod i'n digwydd bod yn ystafell y Cyngor ar ôl y seremoni yn siarad efo'r diweddar Cledwyn Huws ( as you do) pan ddaeth George 'Tomos' i mewn.
"Hywel's just been made a member of the Gorsedd, George," meddai Cledwyn.
"Wel," meddai George Thomas, "congratulations on the white robe."
"Actually, Mr. Thomas," medda fi, "it's green."
Ac medda' Siôr a Donypandy, oedd a'i feddwl mor finiog a'i dafod: "Don't worry-it'll turn white with age."
Ac mi wnaeth yn Eisteddfod Casnewydd, 1988 pan roddwyd cadair i Elwyn Edwards a choron i Jim Jones, Parcnest, â gwisg wen i minnau.
Dal i fwynhau A dyma fi yn Eisteddfod Abertawe, ac yn dal i fwynhau gymaint ac erioed.
Fe gofir yr eisteddfod yma am wahanol resymau:
Eigra o dan ei choron, y cerrig o dan draed a'r pafiliwn, fel merch ifanc yn ymbincio ynghanol y maes a'r miloedd yn cerdded o gwmpas godre ei gwisg llachar.
A dyna thema cywydd Croeso gwych Emyr Lewis:
"Agweld Felindre i gyd
Yn ifanc, ifanc hefyd."
Yn yr heulwen ddoe fe welais i Gyfarwyddwr yr Eisteddfod, Elfed Roberts yn sefyll o flaen y pafilwn lliwgar efo gwên ar ei wyneb. Deuawd Eisteddfodol gofiadwy- Pinky a Perky!
|
|
|
|
|
|