|
Cafwyd maes a alwyd yn 'lleuad' oherwydd ei arwynebedd caregog, llwyd a llychlyd. Cafwyd pafiliwn pinc.
A chafwyd gwên ar wyneb trefnwyr yr Eisteddfod wrth iddyn nhw wylio mantolen ariannol y Brifwyl yn symud o'r coch, heibio'r pinc, ac i'r glas a'r cyfarwyddwr, Elfed Roberts, yn rhagdybio rhyw £100,000 o elw.
Rhwng popeth bu hon yn Eisteddfod Genedlaethol lwyddiannus ddigon gyda'r ffigurau mynediad ar ddechrau'r wythnos yn well na Eryri y llynedd.
Ac, yn wir, erbyn diwedd yr wythnos nid oedd ffigurau mynediad Abertawe ond dwy fil a hanner yn brin o rai Eryri y llynedd - er bod honno'n ardal sy'n cael ei disgrifio byth a hefyd fel "cadarnle'r" Eisteddfod Genedlaethol.
Ar gyfer yr wythnos gyfan gwerthwyd 155,437 o docynnau o gymharu â 157,820 yn Eryri a 147,785 yng Nghasnewydd y flwyddyn cynt.
Yn ariannol hefyd gwnaeth y Jacs yn dda gyda phwyllgorau lleol yn codi llawer iawn mwy o arian na'r nod a osodwyd iddynt.
Yr anweledig Llwyddwyd hefyd i gael byddin o wirfoddolwyr i gynorthwyo mewn pob math o ffyrdd.
Rhain oedd y bobl "anweledig" y cyfeiriodd Heini Gruffudd, Cadeirydd y Pwyllgor Gwaith atyn nhw yn y gynhadledd olaf i'r wasg, fore Sadwrn.
"Rhaid diolch," meddai, "i'r cannoedd o bobl anweledig sydd wedi bod yn ddyfal yn gweithio am dros ddwy flynedd ac yn ystod yr wythnos yma.
"O'r rhai sydd wedi bod yn smwddio gwisgoedd yr Orsedd, i wneud te i'r stiwardiaid.
"Mae dros 300 o stiwardiaid wedi bod yn gweithio yma dros yr wythnos ac o werthu tocynnau yn ddyfal ers misoedd i'r pebyll arddangos fel Celf a Chrefft a'r Pagoda mae'n debyg bod dros 1,000 o wirfoddolwyr wedi bod yma i gynnal yr wythnos lwyddiannus yma.
"Rydym yn ffodus iawn o fod wedi cael cefnogaeth y bobl leol ac maen nhw'n haeddu clod. Clod i'r rhai na welwn ni."
Eangu'r apêl Ac yn ystod ei ymweliad â'r Eisteddfod canmolodd Prif Weinidog y Cynulliad, Rhodri Morgan - a oedd yno gyda'i frawd yr Athro Prys Morgan, llywydd anrhydeddus yr Ŵyl - ymdrechion yr Eisteddfod i 'eangu ei hapêl" gyda'r awgrym fod yr Eisteddfod Genedlaethol unwaith eto yn llyfrau da y Cynulliad.
Ond, fel y dywedodd sawl gwaith o'r blaen prysurodd Dafydd Whittal, cadeirydd Cyngor yr Eisteddfod, i atgoffa pawb mai gwella y mae cyflwr y Brifwyl ac nid wedi ei ddatrys.
Dyna neges y trysorydd, Eric Davies, hefyd: "Wedi gwneud colledion yn y blynyddoedd diwethaf mae'r newyddion yma [am elw] yn Abertawe yn newyddion da iawn," meddai
"Gallwn ddweud ein bod eleni wedi cyrraedd y targedau mynediad i'r maes, wedi mynd heibio'r targed ar gyfer y cyngherddau ac felly bod 'na elw."
Diolch i gyngherddau Eglurodd fod y gwahaniaeth rhwng elw a cholled yn dibynnu'n fawr ar y cyngherddau ac i rai Abertawe fod yn rhai llwyddiannus iawn.
"Dydi'r problemau ariannol ddim wedi clirio ond mae'r sylfaen yn gwella," ychwanegodd.
Arwyddo cytundeb Rhywbeth arall a barodd gryn foddhad yn ystod yr wythnos oedd arwyddo cytundeb ariannol newydd gyda Chymdeithas Awdurdodau Lleol Cymru gan ffurfioli y modd y bydd awdurdodau lleol yn noddi'r Eisteddfod o flwyddyn i flwyddyn.
Er nad yw hwn yn arian na newydd nac ychwanegol bydd ar gael o hyn allan mewn ffordd llawer iawn mwy di-lol.
llwch a cherrig Wrth gwrs, fyddai eisteddfod ddim yn eisteddfod heb ei chwynion ac heb fwd i gwyno amdano ar faes Felindre trodd mynychwyr y maes eu sylw at y llwch, y cerrig a'r ffaith nad oedd porfa i gerdded arni.
Bu cwyno mawr fod y maes caregog yn un blinedig ac yn un amhosib bron i rieni gyda babanod mewn coetsus bach ac i rai mewn cadeiriau olwyn.
Ac wrth i'r wythnos fynd rhagddi gwelwyd rhai o stiwardiaid y meysydd parcio yn dewis gwisgo mygydau rhag anadlu'r llwch oedd yn codi'n gymylau.
Ond ag ystyried popeth bu Eisteddfod Genedlaethol Abertawe a'r Cyffiniau 2006 yn un hwylus a didramgwydd i'r trefnwyr ac, efallai, fymryn yn ddigynnwrf i Steddfodtwyr selog.
A hynny'n peri trafferth i ohebwyr a newyddiadurwyr amddifad o esgyrn i gnoi arnyn nhw.
|
|