|
|
|
Mawredd Mawr - Dewi Pws a'r Archesgob
|
|
|
|
Ymhlith y gynulleidfa yn Noson Mawredd Mawr yr oedd Aled Edwards. Dyma ei ymateb i "Noson Dewi Pws".
Cliciwch i weld cyfres o luniau
I sawl eisteddfodwr brwd o'r Saithdegau a'r Wythdegau fe ddechreuodd yr Eisteddfod yn Abertawe â chyferbyniad.
Daeth yr Archesgob Rowan Williams, barfog, yn ei gasog ddu i herio' dorf Sabothol. Nos Lun fe ddaeth yr anhygoel Dewi Pws moel yn ei overall, ei grys-T glas a'i het gron ddu i ddiddanu'r un dorf dan y canfas pinc.
Go brin y bydd yn dechrau ffasiwn newydd.
Aros yn y cof Fel eiconau gwahanol cyfnod arbennig i wahanol bobl, safodd y ddau ddyn allan.
Eleni fe arhosodd cyfraniad un fwy yn y cof i mi na'r llall - Dewi Pws.
Roedd y noson a gafwyd i ddathlu ei gyfraniad yn llawer mwy o hwyl hefyd. Roedd y jôcs -hyd yn oed am rechu - yn ysgafn amrwd ond yn gofiadwy ddoniol.
Bu dynwared Rolff Harris a Rhodri Morgan druan fel tameidiau rhwng prydau'r caneuon yn ffordd dda o gynnal rhediad y noson.
Hyfrydwch pennaf Mawredd Mawr a'r noson a gafwyd i ddathlu cyfraniad Dewi Pws dros sawl degawd oedd y llu o sêr: Bryn Fon, Huw Chiswell, Clive Harpwood, Linda Healey, Heather Jones, Sioned Mair a'r anhygoel Stuart Cable - a ddaeth i ganu caneuon mwyaf adnabyddus Tebot Piws ac Edward H Dafis.
Plant ei ysgol Ymysg sêr pennaf y noson fe gafwyd plant ysgol ei febyd, Ysgol y Lôn Las.
Roedd cyfraniad y plant yn rhyfedd allweddol i rediad y noson. Nid yn unig oherwydd iddyn nhw bontio sawl cenhedlaeth ond oherwydd iddyn nhw ddatgelu yn y modd mwyaf diymhongar athrylith rhai o eiriau Dewi Pws.
Weithiau, daw gwir werth celfyddyd unigolion - hyd yn oed y clown - i'r wyneb ond wedi i'w gwaith gael ei fynegi a'i ddehongli gan eraill.
O dan y sbort a'r het ddu gron, y sôn am ddwyn trwynau a mynd yn ôl i Flaenau Ffestiniog, fe gafwyd crybwyll arwyddocâd nwy yn y nen a mynd yn ôl i'r Gorllewin.
Mewn munud cwbl gofiadwy ar ddiwedd y noson, gofynnwyd i'r dorf sefyll yn dawel i weld a chlywed clip o'r diweddar Tich Gwilym yn chwarae Hen Wlad fy Nhadau.
Dweud llawer Fe ddywedodd cynnwys y darn rhyfeddol hwn lawer am y dyn a geir o dan yr het ddu gron a'r overall glas.
Nid mynd i ddeall Dewi Pws yn well wnaeth y gynulleidfa a gafwyd yn y pafiliwn nos Lun ond i'w fwynhau.
Byddai deall rhywbeth am Dewi Pws yn dipyn o gamp. Peth rhwydd oedd ei fwynhau.
|
|
|
|
|
|