|
|
Bu un o hoff gymeriadau llenyddiaeth plant yn crwydro'r Maes yn Abertawe bnawn Llun.
Yr oedd Jac y Jwc yno ar gyfer cyhoeddi cerdyn llongyfarch babi newydd i deuluoedd dwyieithog lleol.
Arweiniodd orymdaith o blant a'u rhieni ar draws y maes i stondin y Mudiad Ysgolion Meithrin lle'r oedd teuluoedd lleol oedd newydd gael babi yn disgwyl (!) amdano.
Lluniwyd y cerdyn ar y cyd rhwng Mudiad Ysgolion Meithrin a Twf gyda neges oddi mewn yn annog cyflwyno'r Gymraeg o'r crud i blant.
Mae manylion hefyd am ddarpariaethau'r Mudiad i helpu magu plant yn ddwyieithog a chyflwyno addysg Gymraeg o oed gynnar iawn i blant.
"Bydd 30,000 o'r cardiau arbennig yma'n cael eu dosbarthu i rieni pob babi a enir yng Nghymru, gan rwydwaith o fydwragedd ledled Cymru er mwyn atgoffa ac annog rhieini i gyflwyno'r Gymraeg o'r crud i'r babi newydd,' meddai Meryl Pierce, Cydlynydd Cenedlaethol Twf.
LLuniwyd cwpledi ar gyfer y cardiau gan Tudur Dylan Jones.
'Mae'n iaith i blant ac 'Mae'n iaith i'w meithrin
o ddim i gant mewn cân a chwerthin'
Meddai Iola Jones, Cyfarwyddwr Marchnata Mudiad Ysgolion Meithrin,
'Roeddwn i'n awyddus i gael rhyw bennill bach cofiadwy yn y cerdyn gan fod hynny'n ffordd dda o gael y rhieni i gofio'r neges bwysig o'i mewn, ac hefyd mae pobl yn debycach o gofio cardiau sy'n cynnwys pennill bach syml y tu mewn.
"Yn ychwanegol at hyn mae gofod ar waelod y cerdyn i'r fydwraig ei lenwi sy'n nodi pwysau, ac amser geni'r plentyn ac yna'i lofnodi er mwyn gwneud y cerdyn yma'n un arbennig, ac yn un y bydd y fam yn siŵr o'i gadw."
|
|
|
|
|
|