91Èȱ¬

Explore the 91Èȱ¬
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Eisteddfod 2006

91Èȱ¬ 91Èȱ¬page
Cymru'r Byd

»

Eisteddfod 2006

Lluniau

Cefndir

Canlyniadau

Cysylltiadau Eraill

Gweddarlledu

Sain

Fideo

91Èȱ¬ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Sibrydion Adolygiad - gig nos Lun
Lowri Johnston yn adolygu gig Brwydyr y Bandiau, Tangwystl a Sibrydion wedi ei drefnu gan Gymdeithas yr Iaith.

Mae cystadleuaeth Brwydyr y Bandiau o hyd yn noson ddiddorol; cyfle i weld bandiau newydd, cyffrous - y Mattoidz, Radio Luxembourg a'r Big Leaves nesa'. A doedd neithiwr ddim gwahanol.

Zootechnics agorodd y noson ond yn anffodus oherwydd y prinder bysys o'r maes i ganol y ddinas, cyrhaeddais fel yr oedden nhw yn gorffen. Felly band cyntaf y noson i mi oedd Eusebio, grŵp o ysgol Y Preseli yng Nghrymych. Yn anffodus doedd y sain ddim yn wych ac roedd hi'n anodd clywed y prif leisydd ar adegau.

Er hyn, roedd ganddyn nhw ganeuon oedd yn tynnu fy sylw, a chyda mwy o ymarfer a phrofiad gallen nhw fod yn fand addawol iawn.

Amlder oedd nesaf, band o ardal Llandeilo. Doeddwn i heb weld y band ers blwyddyn ac roedd eu perfformiad neithiwr yn ddatblygiad mawr ar eu sŵn flwyddyn yn ôl.

Unwaith eto, doedd y sain ddim cweit yn iawn, a chydbwysedd y lleisiau ddim yn taro deuddeg bob tro. Ar y cyfan, roedden nhw'n cyd-chwarae'n wych, ond droeon eraill roedden nhw'n ei cholli hi braidd.

Ac yna i Gloria a'r Creions Piws; enillwyr rhagbrawf LlÅ·n.
Dyma oedd set ddiddorol! Caneuon blues a roc ac roedd y gitarydd yn wych.

Yn anffodus, fel Amlder, doedden nhw ddim cweit yn gyson a thra bo rhai caneuon yn gofiadwy doedd rhai eraill ddim yn cyrraedd yr un safon. Ond, dyma fand llawn hwyl sydd â dyfodol disglair gobeithio.

A'r enillwyr?
Er bod anghytuno wedi bod rhwng y beirniaid Ian Cottrell ac Esyllt o Ciwdod, Amlder aeth â hi. Gobeithio y gwnawn nhw ddefnyddio'r cyfle i ddatblygu ymhellach a phob lwc iddynt.

Tangwystl oedd yn chwarae nesaf a chan fy mod i wedi adolygu eu gig nhw nos Sadwrn ym Maes B, wnai ddim ymhelaethu gormod gan nad oedd eu perfformiad nhw yn amrywio ryw lawer.

Set da iawn, caneuon tynn gyda phob cân yn wahanol i'r llall a Saith Pechod Marwol a Mabli yn uchafbwyntiau.

Ac yna, Sibrydion i orffen y noson.
Roedd y gwahaniaeth rhwng y band yma a'r rhai ym Mrwydyr y Bandiau yn enfawr ac mae'n dangos cymaint o wahaniaeth mae ymarfer a phrofiad yn gwneud.

Roedd eu set yn llawn o'r ffefrynnau gan gynnwys Dafad Ddu, Hel Clecs, Blith Drafflith, Chiwawas a'r gân newydd Mynd a Dod sy'n swnio'n addawol iawn. Gyda'r gynulleidfa yn dawnsio'n wyllt dyma ddiwedd gret i noson dda iawn.

Mae lleoliad gigs Cymdeithas yr Iaith yn Barons yn un da iawn, er bod y llwyfan yn fach ac yn siâp braidd yn od. Ond digon o le i ddawnsio ac i eistedd a cherdded o gwmpas ac edrych ar y goleuadau lliwgar!


Mwy o storiau Dydd Mawrth

sunny Abertawe
isaf 10°CÌýÌýuchaf 15°C

Rhagolygon 5 diwrnod


About the 91Èȱ¬ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý