|
Bydd sylw arbennig yn cael ei roi i ffilmiau Cymreig o bwys yn y Babell Lên, dri diwrnod yr wythnos hon.
Maent yn amrywio o ffilm a wnaed yn 1949 am y Noson Lawen i'r gyfres deledu gyfoes hynod o boblogaidd Con Passionate.
Dywedodd Gwenno Ffrancon, llefarydd ar ran pwyllgor gwaith y Babell Lên ac awdur cyfrol bwysig am hanes y ffilm yng Nghymru, Cyfaredd%20y%20Cysgodion, mai'r bwriad yw, "rhoi lle haeddiannol i'r cyfryngau gweledol yn niwylliant Cymraeg Cymru."
"Mae hefyd yn gyfle i ddathlu rhai o gynyrchiadau gorau Cymru," meddai.
Bydd y sesiynau ddyddiau Mawrth, Mercher a Iau.
Dathliad o'r ffilm 'Noson Lawen' (1949) yng nghwmni dau o'r sêr, Meredydd Evans a Cledwyn Jones.
Mae hwn yn gyfle i weld rhai o sêr y rhaglen radio boblogaidd ar y sgrin fawr. Mawrth. 1.00 o'r gloch. Noddir y dangosiad hwn gan Archif Genedlaethol Sgrin a Sain Cymru.
Dathliad o Con Passionate yng nghwmni Siwan Jones yr awdur, Paul Jones, cynhyrchydd, Rhys Powys, cyfarwyddwr, a William Huw sy'n actio yn y gyfres.
Mae'r sesiwn hwn wedi ei drefnu ar y cyd gyda Cyfrwng. Lyn Lewis Dafis fydd yn cadeirio. Mercher, 10.00 o'r gloch.
Ed Thomas yn cyflwyno ei ffilm ddogfen a leolwyd yng Nghwmgiedd, Cwm Tawe, Y Pentre Mud sy'n deyrnged i ffilm Humphrey Jennings The Silent Village.
"Lluniodd Jennings ei ffilm er cof am bentref Lidice yn y Weriniaeth Tsiec - pentref a ddinistriwyd yn llwyr gan y Natsiaid," meddai Gwenno Ffrancon sy'n darlithio ym Mhrifysgol Abertawe.
"Ymddangosodd trigolion Cwmgiedd yn ffilm Jennings ac mae ffilm ddogfen Ed Thomas yn cyfleu pa mor bwysig fu'r digwyddiad hwn yn hanes y pentref a'r berthynas agos sy'n bodoli rhwng y pentref yn Ne Cymru a phentref Lidice," ychwanegodd. Dydd Iau, 10.00 o'r gloch.
"Bydd y tair sesiwn yn wahanol iawn i'w gilydd ond yn dangos y cyfoeth gweledol sydd gan Gymru," meddai.
|
|