Stori garu Prys a Rhodri Morgan Eu tad a mam yn syrthio mewn cariad yn Eisteddfod Abertawe 1926
Y mae i ymweliad yr Eisteddfod ag Abertawe arwyddocâd emosiynol iawn i'r ddau frawd, Rhodri Morgan - prif weinidog y Cynulliad - a'r Athro Prys Morgan - yr ysgolhaig a llywydd Eisteddfod 2006.
Mewn Eisteddfod yn Abertawe y syrthiodd tad a mam y ddau ohonyn nhw mewn cariad - a hynny yn ystod rhagbrofion cystadleuaeth offerynnol.
"Erbyn y chweched perfformiad yr oedd fy mam yn berffaith sicr ei bod mewn cariad ag ef," meddai Prys Morgan wrth adrodd yr hanes.
Yr oedd eisoes wedi dweud y stori ar raglen Beti a'i Phobl ar 91Èȱ¬ Radio Cymru.
"Roedd fy nhad a mam yn fyfyrwyr gyda'i gilydd yng Ngholeg Abertawe," meddai Prys Morgan wrth Beti George.
"Roedd fy mam yn 24 a fy nhad yn 25 ac fe ddaeth yr Eisteddfod Genedlaethol i Victoria Park yn Abertawe yn 1926.
"Fe ofynnodd fy nhad i mam pe bydde hi yn fodlon dod i glywed profion y ffidil oedd yn Pafiliwn Patti, ar gornel y parc wrth ochr pafiliwn mawr y Steddfod.
"A dyma mam yn synnu braidd. Doedd hi ddim yn gwybod bod y bachgen cyffredin o'r Glais gyda diddordeb mewn miwsig.
Yn ystod ymweliad y ddau frawd â maes yr Eisteddfod ddydd Llun ailadroddodd Prys Morgan y stori hon am ei fam â'r bachgen cyffredin a ddaeth yn un o ysgolheigion mwyaf blaen llaw y Gymraeg, T J Morgan.
Yn y gynhadledd hefyd bu'r ddau frawd yn sôn sut yr oedd y maes lle mae'r eisteddfod yr wythnos hon yn rhan o dir yr oedd y 'tylwth' yn ei amaethu.