Troi tu min Cyfarchion o faes Felindre ar fore Iau.
Wyddoch chi be, mae Nedwyn John y ci bach cysglyd a finna wedi cael dipyn o sioc. Clywed fod dau eisteddfodwr brwd wedi cael eu dal yn cario cyllyll tra'n ymweld ag adeilad y Cynulliad Cenedlaethol yng Nghaerdydd.
Dyma ichi William John Davies o Lanbrynmair y Cyn Oruchwyliwr llwyfan gweithgar a geisiodd fynediad yn cario ei gyllell boced ar gyfer gwaith garddio medda fo.
A wedyn y Cyn Archdderwydd Robyn Llyn oedd yno yn cynrychioli Bwrdd yr Orsedd.
Cyllell i dorri brechdan iddo'i hun oedd gynno fo yn ei fag. Hynny ar gyfer taith hirfaith boenus ar un o drenau Arriva o'r Gogledd.
Digon yw dweud y bu'n rhaid i'r ddau hepgor eu harfau tra'n cerdded coridorau grym. Ar ôl clywed hynna aeth Nedwyn yn ôl i gysgu!
Dod yn eu blaenau Mae sibrydion ar droed fod Bwrdd yr Orsedd wedi penderfynu (tu ôl i ddrysau caëdig wrth gwrs) y bydden nhw'n urddo yr enwog Glyn Wise o Dŷ'r Brawd Mawr i urdd Derwydd er anrhydedd in absent fore Gwener.
Os gwir y gair dyma glamp o wythnos fawr i Stiniog. Coron i Eigra a choban wen i Glyn, y ddau wedi eu magu o fewn tafliad llechen i'w gilydd.
Gormod o wybodaeth Tydi hi'n hawdd pechu deudwch. Pobl yn cwyno rŵan fod yr arweinydd Siân Thomas wedi bod yn cyflwyno gormod o wybodaeth am y cystadleuwyr cyn cystadlu.
Datgan pwy yw'r hyfforddwyr a phetha felly.
Sori Siân Thomas mae rhai pethau na ddylid eu dweud ym myd y cythrel cystadlu.
Boed anwybodaeth . . . A sylwi fod Menna Elfyn yn ei cholofn yn y Western Mail yn pwysleisio nad oedd ganddi hi na'i chyd feirniaid y syniad lleiaf pwy oedd enillydd Coron Abertawe.
Bobol bach onid felly y dylai hi fod?
Ond mi garwn i petai hi wedi esbonio sut y bu iddi hi a Damian Walford Davies fod yn ddigon gwrol i anghytuno â barn Gwyneth Lewis.
Onid y Fonesig Lewis oedd ein Bardd Cenedlaethol cyntaf ac onid yw'r fath anghytundeb yn sen ar yr arswydus swydd honno?
Bwlio Bwli mawr y Gymru hon. Dyna ddisgrifiad ardderchog Ron Jones o gwmni Telesgop o ddinas Caerdydd.
A holodd pam fod sefydliadau cwbl Gymraeg fel S4C, Bwrdd yr Iaith, a'r Eisteddfod Genedlaethol yn cynnal breichiau'r bwli yma.
Nid yng Nghaerdydd y dylen nhw fod medda fo. Ond a fydd y Sanhedrin a'r lleill yn ymateb yn gadarnhaol. Go brin.
Mae'r maes a'r pafiliwn pinc yn dal i fod yn destun gwawd a beirniadaeth.
Y disgrifiad gorau a glywais i o'r babell newydd ydi ei bod hi fel hwch fagu ar wastad ei chefn yn yr haul.
Ond meddai hen wag arall wrtha i: 'Dew', medda fo, 'mae'n dipyn o newid gweld y jyncet genedlaethol yn y pinc am unwaith - mae'r hen garpan dlawd wedi bod yn y coch yn ddigon hir.'
Ac ni all neb ddadlau efo hynny.
Ond a ydi petha yn gwbl hynci dori tua'r maes carafannau eleni? Rhyw gwestiwn bach fel yna, o Felindre.
|