91Èȱ¬

Explore the 91Èȱ¬
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Eisteddfod 2006

91Èȱ¬ 91Èȱ¬page
Cymru'r Byd

»

Eisteddfod 2006

Lluniau

Cefndir

Canlyniadau

Cysylltiadau Eraill

Gweddarlledu

Sain

Fideo

91Èȱ¬ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Meic Stephens Adolygiad - gig nos Fercher
Adolygiad o gig nos Fercher Cymdeithas yr Iaith yng nghlwb Barons gan Lowri Johnston.

Radioflyers agorodd y noson.
Dyma'r tro cyntaf i mi weld y band yma o Bwllheli, ac mae nhw newydd wneud sesiwn C2 - canmoliadwy iawn.

Dwi'n mwynhau eu caneuon yn fawr, ac er eu bod nhw'n disgrifio eu cerddoriaeth fel 'roc melodic' sy'n rhoi'r argraff i mi o fod ychydig yn aniddorol, mae llawer mwy i'r band 'na hynny, ac mi fydda i bendant yn mynd i weld y band yma eto.

Plant Duw oedd nesaf a doedd o ddim yn berfformiad cofiadwy iawn ac yn ymddangos bod y caneuon tipyn yn llai trwm.
Nid peth da mo hynny gan eu bod nhw'n arfer ychwanegu rhywbeth gwahanol i'r 'sin Gymraeg', ac i fod yn onest, roedd eu perfformiad neithiwr ychydig yn aniddorol...

Ond bob tro dwi wedi eu gweld nhw yn y gorffennol mae cynulleidfa gref yn dawnsio'n wyllt iddyn nhw, a doedd neb yn dawnsio nos Fercher, a posib iawn bod hyn yn gwneud gwahaniaeth mawr i'w perfformiad.

Band talentog
Yna i Pwsi Meri Mew, band sydd wir yn mynd o nerth i nerth ac yn gwella bob tro dwi'n eu gweld nhw. Cerddoriaeth yn ffynci ac mae'n anodd ymatal rhag dawnsio wrth eu gwylio nhw!

Mae Alun Gaffey yn wych fel prif leisydd ac roedd y band yn amlwg yn mwynhau eu hunain yn fawr ar y llwyfan.

Dwi'n edrych ymlaen i glywed mwy gan y band talentog yma!

Cynulleidfa fawr!
Mim Twm Llai oedd nesaf ac er fy mod i'n dwli ar ei gerddoriaeth, doedd ei berfformiad nos Fercher ddim yn ysbrydoledig.

Efallai nad bai Gai Toms ei hun yw hyn ond, yn hytrach, fod cymaint o bobl fawr yn y gynulleidfa a minnau'n methu gweld y llwyfan o gwbl!

Ond mwynheuais 'Rhosyn rhwng fy nannedd', 'Sunshine Dan', 'Gwe pry cop tom' a chaneuon o'i albym cyntaf.

Uchafbwynt y noson
Yna i uchafbwynt y noson yn bendant - Meic Stephens.

Dyma'r gorau i mi ei weld ers sbel. Mae e wir i'w weld yn mwynhau ar y llwyfan ac am unwaith ddim eisiau gadael!

Roedd Billy Thompson unwaith eto yn wych ar y ffidl; mor wych, nad oes geiriau i'w ddisgrifio heblaw gwych!

Wrth iddo gwyno am y sain i gychwyn ofnai pawb nad oedd am chwarae o gwbl ond daliodd ati gan chwarae set wych!

Erwan, Ysbryd Solfa, Y Brawd Hwdini a nifer o ganeuon gwych eraill yn dod â'r noson i ben a phawb yn dawnsio'n wyllt!


Mwy o storiau Dydd Iau

sunny Abertawe
isaf 10°CÌýÌýuchaf 15°C

Rhagolygon 5 diwrnod


About the 91Èȱ¬ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý