Dyma limrig dydd Gwener gan Hywel Griffiths:
Aeth gwr bach o ardal Felindre
I gigio yn mer Abertawe,
Ond aeth pethau o chwith
Wel do bron yn syth
.....................................
Hedd Bleddyn oedd yn beirniadu, ac Enid Evans o'r Bermo oedd yn fuddugol gyda'r linell ganlynol:
Ac adref ar elor y daeth e
Dyma rhai o'r cynigion eraill ddaeth i law:
Gan Sara Evans o Bontrhydygroes:
Aeth adre a'i ben rhwng ei goese
Aeth adre heb drowsus na sanne
Mae'n perthyn yn agos i'r Cilie
5 cynnig limerig gan Ann Wyn Owen o Rhoscolyn:
Mae'n Gymro ar wasgar yn rhywle
Mae'n gelain yng nghrombil rhyw gele
Daeth morgi a'i gnoi e yn ddarne
Fe gipiodd mor-forwyn ei drôs e
Daeth cimwch a pinsho ei foch e
Gan Mima Rhiannon o Langeitho
Trodd yn ôl a gwibio am adre
Ni chwythith e fwy o ganhwylle
Ni welith e 'to blaen ei droed e
|