|
Bydd Americanwr sydd wedi dysgu Cymraeg ar y we ym Mhabell y Dysgwyr yfory, dydd Sadwrn.
Fel rhan o weithgareddau Diwrnod y Dysgwyr bydd cyfle i gyfarfod Chris Cope a symudodd gyda'i wraig Rachel i Gaerdydd o Minneapolis lle bydd yn cychwyn ar gwrs gradd yn y brifysgol ym Medi.
Bydd ef yn siarad am ei brofiad yn dysgu Cymraeg ar y we.
Yn ystod y dydd hefyd mae gwahoddiad i rai sy'n "newydd i'r iaith neu am wella eu Cymraeg ymuno gyda ni ar gyfer gweithgareddau Cymraeg yng nghwmni rhai o wynebau cyfarwydd 91Èȱ¬ Cymru."
Cewch sgwrs gyda rhai o drigolion Cwmderi - Ffion (Bethan Ellis Owen) a Kelly (Lauren Phillips).
Hefyd, bydd cyfle i ddysgu canu Hen Wlad fy Nhadau yn iawn a'r Anthem Genedlaethol yn dathlu ei 150 oed eleni!
Diwrnod y Dysgwyr
Pabell y Dysgwyr - 9.00am, dydd Sadwrn Awst 12
|
|
|
|
|
|