Apêl i ddiogelu cynllun dysgu Cymraeg yn y Wladfa
Gwnaed apêl am i bobl "wthio, pwnio a phrocio" y Cynulliad Cenedlaethol i ddiogelu cynllun dysgu Cymraeg yn y Wladfa ym Mhatagonia.
Gwnaed yr apêl gan lywydd Cymdeithas Cymru-Ariannin yng nghyfarfod blynyddol y mudiad ym Mhabell y Cymdeithasau ddydd Iau.
Bydd cynllun sy'n galluogi i athrawon o Gymru gael eu hanfon i gynnal dosbarthiadau ym Mhatagonia yn dirwyn i ben fis Chwefror nesaf ac ar hyn o bryd nid oes addewid o ragor o arian gan y Cynulliad.
Clywodd aelodau Cymdeithas Cymru-Ariannin i'r cynllun fod yn un hynod lwyddiannus ers ei sefydlu chwe blynedd yn ôl gan Rod Richards pan oedd yn weinidog yn y Swyddfa Gymreig.
Nid yn unig bu cynnydd rhyfeddol yn nifer y dysgwyr yn ardaloedd Trelew, Y Gaiman yn Nyffryn Camwy ac Esquel a Threvelin yn yr Andes ond hefyd dysgodd rhai Gymraeg yn ddigon da i fod yn diwtoriaid eu hunain.
Yn ôl y ffigurau diweddaraf y mae 666 o ddysgwyr yn cyfarfod mewn nifer o ganolfannau gyda 440 ohonyn nhw'n blant a phobl ifainc yn ôl ffigurau a gyflwynwyd gan y Dr Robert Owen Jones o Brifysgol Caerdydd sydd yn arolygu'r cynllun ar ran y Cynulliad a'r Cyngor Prydeinig sy'n ei weinyddu.
"Nid rhywbeth i hen bobol yw'r Gymraeg yn y Wladfa erbyn hyn," meddai. "Mae'r ddelwedd yn newid."
Ond er cymaint llwyddiant y cynllun - neu "y prosiect" fel mae'n cael ei alw gan y gwladfawyr rhybuddiodd y Dr Robert Owen Jones nad yw'r sylfeini yn ddigon cadarn hyd yn hyn iddo barhau heb ragor o gymorth o Gymru.
Mae hynny'n fwy gwir nag erioed ers i gyflwr economaidd yr Ariannin ddirywio dros y misoedd diwethaf a dywedodd Robert Owen Jones i nifer y dysgwyr ddisgyn deg y cant eleni yn dilyn cynnydd o ddeg y cant y llynedd.
Fodd bynnag, dywedodd i'r gostyngiad yn nifer mynychwyr dosbarthiadau Saesneg y Cyngor Preydeinig yn yr Ariannin ostwng cymaint a 70% wrth i'r sefyllfa economaidd fynd o ddrwg i waeth.
Yn cynrychioli Gorsedd newydd Patagonia yn y cyfarfod dywedodd Dewi Mefin Jones o Drelew a ddywedodd y byddai'n drychineb tynnu'r gefnogaeth i'r cynllun yn ôl yn awr ei fod yn dechrau dwyn ffrwyth.
Apeliodd Cathrin Williams, y gyntaf o Gymru i fynd yn athrawes wirfoddol ym Mhatagonia cyn bodolaeth y cynllun hwn am i bawb sgrifennu at y Cynulliad i'w argyuhoeddi o werth y cynllun a'r ffolineb o beidio â pharhau ag ef.
"Gwrthiwch a phwniwch a holwch y Cynulliad," meddai.
|