91热爆


Explore the 91热爆

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Eisteddfor yr Urdd - Caerdydd 2002

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



91热爆 91热爆page

Cymru'r Byd
» Eisteddfod 2002
O'r Maes
Lluniau'r Wythnos
Cefndir
Cysylltiadau
Safle Celf a Chrefft Eisteddfod 2002

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Cefndir Atgofion Penfro

GolygfaMae'r traddodiad eisteddfodol yn ddwfn yn naear Sir Benfro fel y canfu Gwyn Griffiths pan fu'n byw yn yr ardal.



Dywedodd rhywun wrthyf unwaith fod i'r man lle buoch yn eich swydd gyntaf gornel arbennig yn eich calon.

Er mai ond am gwta bedair blynedd y bm i'n byw yn Sir Benfro gwnaeth y lle argraff ddofn arnaf. I'r fath raddau nes fy mod hyd yn oed heddiw yn dychwelyd bron iawn yn fisol.

Erys ardal Tyddewi yn un o'm hoff leoedd o fewn y sir. Mae'r cof am Eisteddfodau Cylch Dewi yr Urdd yn arbennig o fyw.

Cylch Dewi a Chylch Y Frenni oedd y ddau gylch cryfaf bryd hynny gyda Chylch Y Frenni'n mynd a hi ran amlaf oherwydd Aelwydydd Crymych a Crosswell (Ffynnon Groes, erbyn heddiw).

Mynd fel wats
Ond roedd trefn yng Nghylch Dewi. Ruthy James, prifathrawes Ysgol Gynradd Carnhedryn, oedd ysgrifenyddes y cylch a phopeth wedi'i drefnu'n ofalus fisoedd ymlaen llaw ac yn mynd fel wats.

Roedd hi fel pyramid. Tuag 21 yn cystadlu dan wyth a than ddeg a roeddech chi'n lwcus os byddai un yn y cystadlaethau dan 25.

Un aelwyd oedd yna. Aelwyd Castell Haidd yn gwarchod yr achos a'r iaith ar draws y Landsker, ffin hanesyddol yr iaith.

Fe ddeuai'r bobl ifanc o ystod eang o wlad pentre Caslai, o Gasblaidd, Penycwm, Cas Morus, draw o cyn belled ag Wdig.

Y côr oedd y peth yn Aelwyd Castell Haidd a Miss Bessie Hughes yn arweinydd ac yn bopeth. Un flwyddyn fe gawson nhw'r syniad o beidio cynnig yng nghystadleuaeth y côr ond i gael nosweithiau diwylliannol gyda dawnsio gwerin a phethau felly.

Bu bron i'r aelwyd fynd a'i phen iddi ac atgyfodwyd y côr ddechrau'r gaeaf wedyn fel mater o frys a phethau'n dod nôl i drefn wedyn.

Lle a pharch
Tair ysgol uwchradd oedd yn y Cylch Ysgol Uwchradd Tyddewi, Ysgol Ramadeg y Merched, Taskers, Hwlffordd, ac Ysgol Fodern Prendergast yn Hwlffordd.

Miss Rees oedd y brifathrawes yn Taskers, Cymraes Gymraeg o Lanelli, yn rhoi lle a pharch i'r Gymraeg.

Nid felly Ysgol Ramadeg y Bechgyn, Hwlffordd. Ddeuai rheini ddim ar gyfyl steddfod pe caent eu crogi am beidio ac nid oedd y Gymraeg yn cael ei dysgu yno.

Roedd mynd ar ddawnsio gwerin yn ysgol Prendergast ac er nad oedd y prifathro a'r dirprwy brif-athrawes yn siarad Cymraeg roeddent yn gefnogol i'r pethau.

Rhiannon Herbert o Faenclochog oedd y cyswllt â'r pethau Cymraeg.

Gramadegydd a chynganeddwr
Yn Ysgol Uwchradd Tyddewi roedd J. J. Evans y gramadegydd, ac awdur Llawlyfr y Cynghaneddion wedi ymddeol o fod yn brifathro cyn fy amser i. Er hynny, cefais gyfle i'w adnabod ar bwyllgorau.

Roedd J. J. ar y Cyngor Sir a rwy'n cofio D. J. Williams, Abergwaun, yn grwgnach na enwebwyd y cyn-brifathro erioed i fod yn Gadeirydd y Pwyllgor Addysg ond ei fod yn Gadeirydd Pwyllgor Ffyrdd a Phontydd y sir!

Twpsod gwaelod y sir oedd yn cael y bai gan D. J.

Gwr o'r enw Mr James fedra i ddim cofio'i enw cyntaf oedd y prifathro Tyddewi. Dyn hawddgar ac amyneddar iawn.

Medru edrych yn gas
Miss Mari Evans, merch J. J. Evans oedd yr athrawes Gymraeg. Roedd hi'n ddynes ddymunol iawn ac yn medru, fel ei thad, edrych yn gas pan fyddai galw.

Mae gen i gof am Richard Lewis yn dysgu yno am flwyddyn neu ddwy. Daeth yn adnabyddus fel cyfarwyddwr a chynhyrchydd teledu gyda 91热爆 Cymru ac Opus wedi hynny.

Roedd yr ysgolion cynradd, wedyn, yn ferw o hwyl ac rwy'n cofio galw yn Ysgol Trefîn sydd wedi ei chau ers blynyddoedd - a Vivian Morgan y prifathro yn dweud wrth y plant:"Mae Mr Griffiths wedi dod i siarad a chi am yr Urdd" ac wrtha i "siarada a nhw am funud bydda i nôl nawr".

Ddaeth e ddim nôl am dri-chwarter awr!



Lle hyfryd i grwydro - gydag Ynys Dewi yn y cefndirDim ond pymtheg o blant oedd yn ysgol Ysgol Llanrhian ond yn paratoi partion unsain dan 12 oed oedd yn rhoi gwres traed i ysgolion gyda dros ddeugant o blant. Grace Davies oedd yr athrawes.

Traddodiad y gwehydd
Roedd traddodiad gwehyddu yn gryf yn Ysgol Solfach a bob blwyddyn fe fydden nhw'n ennill y gwobau cyntaf, ail a thrydydd yn y cystadlaethau dan ddeg a than ddeuddeg yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd.

Mr James oedd enw'r prifathro, dyn brwd iawn a fyddai yn wreiddiol iawn ei ddefnydd o dreigliadau!

Wrth gwrs, mae treigliadau'r Ddyfedeg yn wahanol i weddill Cymru beth bynnag ond rwy'n amau nad oedd e'n dod o'r sir.

Diddorol bod yr ysgol yn gwneud cymaint o waith gwehyddu oherwydd roedd ffatri wlan yn Felin Ganol, ger Solfach.

Roedd dwy ysgol gynradd yn Nhyddewi ac y mae gennyf gof arbennig o bartion ricordyrs Ysgol yr Eglwys a hithau'n frwydr fawr rhyngddyn nhw ag Ysgol Camrose South.

Pwy bynnag fyddai'n ennill yn Eisteddfod Cylch Dewi fyddai'n ennill yn y Genedlaethol heefyd. Ond dim ond ar y ricordyrs y byddai'r Ysgol Eglwys yn cystadlu. Roedd yr ysgol arall yn fwy eangfrydig ei diddordebau.

Wedyn Ysgol Camrose South. Ysgol fawr o tua 200 o blant y dyddiau hynny ond wedi cau erbyn hyn. Ysgol i'r de o'r Landsker ond yr eisteddfotwyr mwyaf brwd o'r cyfan, George John, Cymro di-Gymraeg oedd y prifathro, ac yn mynnu bod pob aelod o'i staff yn Gymry Cymraeg.

Cystadlu ar y côr, y partion, dawnsio gwerin, ricordyrs. Ysgol o ran Saesneg y sir oedd yn gweld gwir werth eisteddfod yn y cyfnod hwnnw.

Aeth bron ddeugain mlynedd heibio ers yr eisteddfodau hynny. Braf fydd dychwelyd i hel mwy o atgofion a chyfarfod eto rai o'r wynebau o'r cyfnod.




Dydd Sadwrn a Sul
Dydd Llun
Dydd Mawrth
Dydd Mercher
Dydd Iau
Dydd Gwener
O'r Maes
Cadeirio Pawb yn y Pafiliwn

Medal i Angharad

Steddfod Gwilym Owen - dydd Mawrth

Steddfod Gwilym Owen - dydd Mercher

Cefndir
Wyddoch chi hyn?

Comedi mewn dosbarth comedi

Yr Archdderwydd newydd

'Lle i enaid gael llonydd'

Araith gyntaf yr Archdderwydd newydd

Heulwen i'r Cymry tramor

'Cadeirydd na fu ei debyg!'

Coron yn deyrnged i fywyd Dewi

Down belows, wês-wês a'r pentigily!

Atgofion Penfro

91热爆 Cymru yn yr Eisteddfod

Blas Gwyddelig i ddarlithoedd

Cysylltiadau eraill
Safle Celf a Chrefft Eisteddfod 2002



About the 91热爆 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy