Wyddoch chi hyn?
Ugain o ffeithiau diddorol - ac un dros ben - am Dyddewi a Sir Benfro
1 Aeth William Goncwerwr ar bererindod i Dyddewi.
2 Dywedwyd bod dwy bererindod i Dyddewi gystal ag un i Rufain a thair i Dyddewi gystal ag un i fedd Crist.
3 Tyddewi yw dinas leiaf Prydain.
4 Dim ond tri chloc sydd ar dwr y gadeirlan oherwydd na allai trigolion gogledd y ddinas godi digon o arian i sicrhau un.
5 Gerallt Gymro yw'r offeiriad enwocaf iw gysylltu â Thyddewi ond gwrthododd Brenin Lloegr ganiatâd iddo fod yn Esgob Tyddewi ddwywaith.
6 Bedyddiwyd Dewi Sant ym Mhorth Clais.
7 Yr oedd tref Penfro yn enwog am ei gwaith lledr, ei nyddwyr a'i theilwriaid.
8 Codwyd y bont dros Afon Cleddau yn y 1970au.
9 Sain Ffred yw'r lle pellaf yng Nghymru oddi wrth Loegr.
10 Disgrifiwyd gweddillion castell Dinbych y Pysgod gan Augustus John fel darn mawr o gaws wedi ei gnoi gan lygod mawr.
11 Morgeneu, a laddwyd gan forladron, oedd y cyntaf o esgobion Tyddewi i fwyta cig. Dwr a llysiau, yn cynnwys cennin, oedd cynhaliaeth Dewi.
12 Yn Abergwaun y ffilmiwyd Moby Dick.
13 Ar Chwefror 22, 1797 glaniodd 1,400 o Ffrancwyr yng Ngharreg wastad ger Abergwaun ond fe'u trechwyd gan ferched y cylch dan arweiniad Jemeima Nicholas wedi eu harfogi a phicwyrch a'u gwisgo mewn coch i ymddangos fel milwyr.
14 Yn ôl traddodiad nid oes afiechyd, gwenwyn na phechod yn nhir Penfro.
15 Y mae dwy Benfro - un Gymraeg ac un Saesneg gyda llinell bendant o Niwgwl i Amroth yn gwahanu'r ddwy ardal: Mae dwy ochr yn Sir Benfro, Un ir Sais ar llall ir Cymro. Melltith Babel wedi rhannu Yr hen sir or pentigili.
16 Dywedodd Gwenallt fod camu i Benfro fel camu i'r cynfyd. Ir cynfyd y camwn wrth groesir ffin i Sir Benfro.
17 Yr enwocaf o feirdd Penfro yw Waldo Williams. Yr oedd yn saith oed cyn dechrau dysgu Cymraeg a hynny pan symudodd y teulu i'r Fynachlog-ddu.
18 Dyma bedwerydd ymweliad yr Eisteddfod a Phenfro: Abergwaun 1936; Hwlffordd 1972; Abergwaun 1986.
19 Mae dros 30 o gromlechi ym Mhenfro.
20 Credir mai almanac amaethyddol yw cylch o gerrig yn y gors fawr.
Ac un arall: Byddai pererinion o'r gogledd yn cychwyn o Dreffynnon gan alw yn Rhuthun, Y Bala, Dolgellau, Ystrad Fflur Llanbedr Pont Steffan Aberteifi gan dderbyn eu cymun olaf cyn cyrraedd Tyddewi yn Nanhyfer.
|