Steddfod Gwilym Owen - dydd Mercher
Mae yna rywbeth ynglyn â maes y 'Steddfod yma sy'n gwneud i bobl ddeud petha carlamus ac anystyriol - ond mae hynny yn dod yn eitha naturiol i'n Prif Weinidog annwyl Rhodri Morgan.
Ac yng nghyfarfod eisteddfodol Cymdeithas Cledwyn - delwedd Cymreictod simsan y Blaid Lafur yng Nghymru - bydd gan wlad y gân chwe llysgenhadaeth newydd led-led y byd cyn bo hir.
Agorir y gyntaf yn Efrog Newydd yn yr Hydref ond ddaru neb ofyn iddo pryd fydd yna do uwchben y twll mawr costus yna ym Mae Caerdydd. Mae'n amlwg mai pobl neis iawn ydi aeloda Cymdeithas Cledwyn.
Gwyrdd ac eilradd Ac mi fydd angen dipyn o ddiplomyddiaeth enwog yr Arglwydd Cledwyn a Robyn Llyn yr Archdderwydd o fewn deuddydd.
Mewn llythyr yn un o bapurau trymion Llundain y bore ma mae o'n datgan mai "merely a green robe" gafodd y Fam Frenhines yng Ngorsedd y Beirdd - awgrym mai anrhydedd eilradd ydi'r Wisg Werdd.
Sut y bydd o'n cyfiawnhau gosodiad o'r fath i'r ugain ofydd newydd fydd o'n groesawu i'r cylch fore Gwener. A fydd o'n deud Cawsoch eich haeddiant "merely a green robe". Och!
A sôn am yr Orsedd gweld fod y Daily Post y bore ma yn cyhoeddi llun o dderwydd parchus yn hepian ar y llwyfan yn ystod seremoni coroni bnawn Llun. Ond pam cyhoeddi heddiw yn hytrach na ddoe - rhywun wedi bod yn cysgu tua phencadlys y Daily PostAi'r jôc a fethodd oedd hon?
Beirniadaeth lenyddol Ac yn y Western Mail mae Menna Elfyn un o feirniaid y Goron yn cyfiawnhau'r gwobrwyo.
I mi meddai mae hon yn epig o gerdd ond ar hysbysfwrdd sydd ar safle 91热爆 Cymru mae Twm Morys yn cyhoeddi mai "llwyth o grap" yw'r gerdd yn ei farn ef ac un o'n prifeirdd.
Gelej inni weld Dach ch'n gwbod be ydi ystyr y gair 'gelej' - dwn inna ddim chwaith ac yn ôl rhai adroddiadau doedd gan lawer o'r rhai a welodd y sioe yn y pafiliwn neithiwr fawr o syniad beth oedd pwrpas y sioe ieuenctid amlgyfryngol o dan y teitl rhyfedd hwn.
Roedd rhai wedi syrthio i gysgu ac eraill wedi gadael cyn y diwedd. Tydi pobl yn anodd eu plesio.
Gyda llaw, beth ydi ystyr 'gelej'
Annhebyg at ei annhebyg Enghraifft rwan o ieuo anghymarus - rhwng Cwmni sment o Sir y Fflint a Chwmni Strata Matrix o Aberystwyth.
Mae Castle Cement yn talu i'r cwmni cysylltiadau cyhoeddus ymchwilio i agweddau pobl tuag at y Brifwyl.
O heddiw ymlaen bydd tîm o ymchwilwyr yn holi eisteddfodwyr yn dwll am bopeth ynglyn â'r juncet a chyflwynir adroddiad i Gyngor y Steddfod.
Gyda nawdd Cwmni Sment siawns na fydd seiliau Prifwyl y dyfodol yn gadarn.
Stalinaidd A gorffen efo Elfed Roberts, bos y Sioe.
Darllen ar ddechrau'r Wyl fod y trwbadwr Meic Stevens am ryw reswm wedi disgrifio'r Cyfarwyddwr fel blydi Joseph Stalin.
Alla i yn fy myw ddeall pam. A deud y gwir, o'm rhan fy hun dwi'n gweld pennaeth y Sanhedrin yn ymdebygu fwy bob blwyddyn i Bill Clinton.
Dim ond o ran pryd a gwedd, cofiwch!
|