Yr Archdderwydd newydd
Hon fydd eisteddfod gyntaf Robyn Lewis yn archdderwydd - ond mae'n gyntaf am fwy nag un rheswm . . .
Dyma Robyn Llyn Ganed Dr Robyn Lewis yn Llangollen ond symudodd y teulu i dref glan-môr Nefyn pan oedd Robyn yn dair oed ac yno y mae'n dal i fyw.
Yr oedd ei dad o Ynys Môn a'i daid o gyff Y Cilie yng Ngheredigion.
Mae ei wraig, Gwenan, yn hanu o Borthmadog a Blaenau Ffestiniog.
Gyda'i fam yn athrawes Ffrangeg magwyd ef yn dair-ieithog ac mae wedi ymddiddori hefyd mewn Almaeneg a Sbaeneg.
Mynychodd ysgolion Nefyn a Phwllheli.
Cyn mynd i'r coleg bu am flwyddyn yn Ffrainc.
Newidiodd o gwrs BA Ffrangeg a Saesneg ym Mhrifysgol Aberystwyth gan raddio yn y gyfraith
Ar ô1 bwrw erthyglau cyfraith ym Mangor ymsefydlodd yn gyfreithiwr ym Mhwllheli. Bu'n darlithio ar y Gyfraith yn y Gymraeg i ddosbarthiadau nos am tua phum mlynedd.
Ymddangosodd gerbron y llysoedd laweroedd o weithiau ar ran "troseddwyr yr iaith".
Bu'n Ddirprwy-Farnwr a Chofiadur Cynorthwyol yn Llys y Goron.
Ar ô1 ymddeol yn gynnar fel twrnai daeth yn fargyfreithiwr yn Gray's Inn, Llundain.
Enillodd radd PhD ym Mhrifysgol Cymru, Bangor am draethawd ymchwil1500 tudalen, "Geiriaduraeth y Gyfraith".
Mae'n awdur 20 o lyfrau gan gynnwys tri geiriadur cyfreithiol Saesneg-Cymraeg.
Mae'n aelod trwy arholiad o Gymdeithas Cyfieithwyr Cymru, a thrwy wahoddiad, o'r Academi Gymreig.
Ymgeisiodd am Senedd San Steffan ar ran Plaid Cymru yn Arfon ym 1970.
Bu'n Is-Lywydd Plaid Cymru am chwe blynedd.
Ef oedd Cadeirydd cyntaf Cyngor Dosbarth Dwyfor.
Urddwyd ef i'r Wisg Wen yn Eisteddfod Bro Myrddin ym 1974. Enillodd y Fedal Ryddiaith ym Mhrifwyl Dyffryn Lliw, gel Abertawe, ym 1980 am ei gyfrol, Esgid yn Gwasgu.
Er 1981 bu'n Swyddog Cyfraith Gorsedd y Beirdd.
Ef yw'r cyntaf i'w ethol yn Archdderwydd dan y drefn newydd sy'n rhoi pleidlais i bob aelod o'r Orsedd. Ef hefyd yw'r yw'r archdderwydd cyntaf nad yw'n Brifardd ond wedi ei ddewis fel Prif Lenor. Y mae hefyd y bargyfreithiwr cyntaf erioed i fod yn archdderwydd.
|