Mwynhau Melys ym Maes B
Eleni mae llawer o fandiau yn cael y cyfle i chwarae ar Faes B. Yn lle cael un prif fand mae naw band yn cael sesiwn awr o bump o'r gloch y pnawn hyd ddau o'r gloch bore.
Mae hyn yn syniad da gan fod bandiau llai poblogaidd yn cael y cyfle i chwarae o flaen tyrfa fawr.
Yr unig broblem yw nad yw'r bandiau sy'n chwarae ar ddechrau'r noson yn cael yr un chwarae teg gan nad oes llawer o bobl yno yr adeg honno.
Dim cynulleidfa i Ashokan Yn agor y noson am bump o'r gloch roedd Ashokan. Roedd hi'n bechod mawr iawn bod y lle mor wag gan fod Ashokan yn chwarae yn dda ac mae'n siwr y buasen nhw'n gallu chwarae hyd yn oed yn well os y buasen nhw wedi cael cefnogaeth torf.
Roedd yr un broblem yn wynebu'r ail fand sef Johnny Panic. Mae gan brif leisydd y band yma lais anhygoel ac mae'n bechod nad oedd mwy o bobol yno i'w clywed.
Sêr y noson oedd Paccino, Gwacamoli a Melys. Cafodd y bandiau yma lawer o gefnogaeth ac roedden nhw ar eu gorau.
Roedd hi'n braf gweld Paccino yn perfformio gan eu bod wedi bod yn ddistaw iawn yn ddiweddar yn gweithio ar eu halbwm newydd.
Cawsom glywed rhai o'r caneuon newydd yn ogystal â'r hen rai.
Y dorf yn danwsio a chanu Erbyn hyn mae Gwacamoli yn fand poblogaidd dros ben ac yn perfformio yn wych yn fyw ac yn amlwg roedd y dorf yn eu mwynhau yn fawr wrth iddyn nhw ddawnsio a chanu.
Yn cloi'r noson roedd y band enwog a phoblogaidd, Melys.
Mae Melys wedi bod yn lwcus yn cael cefnogaeth John Peel o Radio 1 ac mae hyn wedi eu helpu i ddatblygu yn fand llwyddiannus dros ben.
Erbyn i Melys chwarae ym Maes B yn oriau mân y bore roedd pawb wedi cael digon i yfed ac am fwynhau eu hunain gan ddawnsio i gerddoriaeth wych Melys.
Ar y cyfan digon araf oedd y noson, ac er bod y bandiau llai profiadol yn cael cyfle i chwarae, doedden nhw ddim yn cael digon o gefnogaeth ac efallai nad oedd rhai o'r bandiau yn ddigon da i chwarae ar Faes B eto.
Adolygiad gan Sioned Gwen Davies
|