Ynghanol y gwynt a'r glaw mae Prifwyl Penfro Tyddewi yn tynnu ei thraed ati. Yr elfennau wedi torri calon llawer iawn o'r stondinwyr a phabell Shelter hyd yn oed wedi cau.
Ond prifwyl fu hon lle bu cyfeirio at Waldo bob hanner awr bron a phrifwyl lle ddangoswyd mai ffigwr cwlt newydd y sefyliad hunan benodedig ddiwylliannol dosbarth canol ydi'r danbaid fendigaid Mererid. Brysied y dydd y gwelir cadeirio merch arall neu mi fydd y Fererid hon wedi ei dwyfoli a'i sancteiddio - Ych a fi.
Ond gair bach o dosturi rwan dros hen gojar o Gymro alltud yn Birmingham Alabama a gysylltodd â gwasanaeth Cymru'r Byd, 91热爆 Cymru wedi gwylio seremoni'r Coroni ar y We bnawn Llun. Roedd o yn ei ddagrau medda fod ond mi fasa fo wedi hoffi gweld mwy o wynebau aelodau'r Orsedd yn cyrraedd a gadael y llwyfan. Rhain medda fo sy'n cynnal diwylliant y genedl. Dyna ddiniweidrwydd yr alltud falla.
Crwydro'r maes yn y gwynt y bore 'ma a gweld creadur hynod mewn het mynd a dwad yn stwrian o gylch stondin The Party of Wales. A phwy oedd o ond yr hynaws Paul Starling o'r Welsh Daily Mirror yn chwilio am y Prif Weithredwr Dr. Dafydd Trystan sydd yn ôl Starling yn ei golofn y bore 'ma wedi bod yn cuddio rhagddo. Mae gen i gwestiwn neu ddau i ofyn iddo meddai'r hac cyn diflannu y tu ôl i'w ragfarnau.
Doedd Ian Parri o'r Daily Post ddim ar y maes heddiw - doedd hynny ddim yn syndod. Yn ôl ei gynnyrch ym mariau tai potas Solfach mae ei Brifwyl o wedi digwydd. Ond o leia fe wnaeth yr ymdrech doedd yna yr un o aelodau staff ein honedig bapur Cymraeg cenedlaethol yn agor i'r Wyl. Hogia'r Cymro ble'r oeddach chi.
A beth am y morgrugyn prysur, Clive Betts. Mae'n amlwg fod angen gwers ar ddearyddiaeth Cymru arno fo. Y bore 'ma mae o'n honni fod cartref yr Archdderwydd ysgwn i a gafodd y penadur gorseddol bang o eogrwydd y bore 'ma wrth groesawu yr ugain ofydd i'r wisg werdd er anrhydedd. Oherwydd mewn llythyr i'r Daily Telegraph yn gynharach yr wythnos yna cyhoeddodd mai anrhydedd eilradd - 'merely a green robe' gafodd y Fam Frenhines. Dyna beth oedd taflu pwcedaid o ddwr oer o ben yr ofyddion newydd balch sy'n profi peth mor beryglus ydi hi i Archdderwydd sgwennu llythyrau i'r Wasg.
Cwestiwn bach rwan i drefnwyr Seremoni Cymru a'r Byd. Ydi o'n gywir i honni nad oedd pob un oedd ar y llwyfan ddoe yn Gymry ar ddiasberod. Onid oedd yna dîm o bump o ymaflwyr codwm o Lydaw heb ddafn o waed Cymreig yn ei gwythiennau nhw ymhlith y rheiny a ganodd 'Unwaith eto yng Nghymru annwyl..' a cholli deigryn bach ar yr un pryd. Oce faswn inna ddim wedi dadla efo nhw os oeddan nhw'n benderfynol o fod yn rhan o'r Sioe!
A dyma ni ar ôl yr holl heip am gecru a phrotest - arolwg iaith ac argyfwng Cymreictod y cyfan gafwyd oedd clamp o dân siafins. Galwch o'r fuddugoliaeth i wleidyddiaeth consensws neu ffuddugoliaeth i'r gwynt a'r glaw - ond rywsut yr hyn welson ni yn Nhyddewi oedd Angerdd pob fflam a thân pob nwyd Yn troi'n ei dro yn lludw llwyd.