Tywydd yn trechu gwron Llydaw!
Yr oedd pump o ymaflwyr codwm o Lydaw ymhlith y rhai a gymerodd ran yn seremoni Cymru a'r Byd yn yr Eisteddfod ddydd Iau.
Ond oherwydd y tywydd garw difethwyd cynlluniau'r criw o Plogonnec i arddangos eu doniau ar y maes.
Gyda hwy yr oedd Rhydian Jones o Gilie Aeron sydd wedi treulio cyfnod yn byw yn Plogonnec sydd wedi ei hefeillio â Llandysul.
Eglurodd ef mai enw'r math arbennig hwn o ymaflyd codwm yn Llydaw yw Gouren - gair sy'n cyfleu yr un ystyr a gwrol yn y Gymraeg.
"Mae rhyw 1,400 wedi eu cofrestru yn ymaflwyr ac mae un ohonom ni yn bencampwr presennol Ewrop dan 21 oed," meddai.
Y mae adrannau i wahanol oedrannau yn ferched ac yn ddynion ac yr oedd un merch ymhlith yr ymwelwyr â'r Steddfod.
Dywedodd Rhydian fod y pump yn amrywio o ran cefndiroedd o gartwnydd i weithiwr cyfrifiaduron a myfyriwr.
Dywedodd fod Goren yn debyg o ran crefft i judo ac mai'r gamp yw cael y gwrthwynebydd ar wastad ei gefn ar lawr. Mae'r Gour-oniaid hefyd yn gwisgo crysau o ddefnydd cryf nid anhebyg i wisg jiwdo.
Ar un adeg yr oedd ymaflyd codwm yn chwarae yng Nghymru hefyd ond heb barhau fel y gwnaeth yn Llydaw.
|