Sioe Ffasiynau Masnach Deg
Yr oedd Ray Gravell, Beti George a Tara Bethan ymhlith nifer o Gymry amlwg a fu'n cefnogi masnach deg mewn sioe ffasiynau ar faes yr Eisteddfod.
Yn Theatr y Maes modelwyd dillad a oedd wedi cael eu cynhyrchu'n deg mewn gwledydd tlawd heb lafur plant a thrwy dalu pris teg i'r gweithwyr i'w galluogi i fyw bywyd teilwng.
O India y daeth un o'r gwisgoedd yr oedd Tara Bethan yn ei modelu a gwelwyd gwaith cywrain appliqué ar waelod ei throwsus.
Gwisgodd Beti George siaced oren a throwsus streip golau cotwm o'r India a chrys-T o Mauritius.
Hefyd yn arddangos y dillad yr oedd Rhodri Glyn, Iolo Williams, Rhian Jones, Angharad Mair, Ann Clwyd, Mererid Hopwood a Catrin Stevens. Judith Humphreys fu'n cyflwyno'r modelau gan ddisgrifio'r dillad a rhoi peth o'r cefndir.
Un o wisgoedd trawiadol Ray Gravell oedd siaced ddu a gwyn o gotwm trwm o Nepal gyda chrysT a siorts, eto o'r India.
Roedd y theatr yn llawn a phawb yn amlwg yn cael hwyl o weld rhai o enwogion Cymru yn dangos eu doniau newydd.
Trefnwyd y sioe gan Traidcraft a Chymorth Cristnogol.
|