Dod i brotestio, aros i ddysgu. Hanes Dysgwraig y Flwyddyn.
Dod i Gymru o Lundain i brotestio yn erbyn globaleiddio wnaeth Dysgwraig y Flwyddyn.
Alice James o Grymych enillyddodd wobr Dysgwr y Flwyddyn eleni.
Mae Alice yn byw yng Nghrymych a dechreuodd ddysgu Cymraeg wedi iddi syrthio mewn cariad gyda Chymro ar ôl iddi ddod i Gymru fel protestwraig.
Meddai Alice, a gipiodd y teitl anrhydeddus hwn mewn noson arbennig i wobrwyo Dysgwr y Flwyddyn, fod yr iaith wedi ei helpu i "osod gwreiddiau i lawr am y tro cyntaf."
Dywedodd beirniad y gystadleuaeth bod y safon wedi bod yn uchel iawn eleni.
Merched ar y blaen Y merched oedd ar y blaen eleni gan mai pedair merch a gyrhaeddodd y rownd derfynol.
Y tair arall oedd Judith Kauffman sydd yn wreiddiol o'r Almaen ond yn byw yn Rachub erbyn hyn, Siân Jenkins o Ddinas Powys a Liz Morgan o Lanbedr y Fro. Cafodd y tair eu cymeradwyo.
Ond Alice Traille a lwyddodd i Gyrraedd y brig a dywedodd wrth iddi ddathlu gyda'i theulu: "Rwy'n falch iawn o ennill y wobr a hefyd yn hapus fy mod yn gallu pasio'r Gymraeg ymlaen i fy mhlant fydd yn tyfu i fyny yn siarad yr iaith."
Roedd y gystadleuaeth yn cael ei noddi gan Western Power Distribution (WPD).
Rôl bwysig y dysgwyr Yn cyflwyno'r wobr ar ran y cwmni roedd Huw Evans. Meddai: "Rydym yn falch iawn o'r cysylltiad gyda'r gystadleuaeth hon sy'n cydnabod y rôl bwysig mae dysgwyr yn chwarae wrth sicrhau dyfodol yr iaith Gymraeg."
"Mae'r Gymraeg yn chwarae rhan ganolog mewn gweithgareddau yng Nghymru a rydym yn hapus o allu cefnogi.." ychwanegodd.
Mae cystadleuaeth Dysgwr y Flwyddyn yn cael ei chynnal yn flynyddol ers bron i ugain mlynedd.
Ei bwriad yw dangos llwyddiannau dysgwyr Cymraeg a phwysleisio i gynulleidfa ehangach yr holl fudd all ddod o ddysgu'r iaith.
Mae Alice yn dod o Lundain ac y mae ei theulu â'u gwreiddiau yn y Caribi.
Bellach mae hi'n briod â Rheinallt Selyf James, cynllunydd dodfren o Grymych, ac yn fam i efeilliaid.
Mae'n siarad Cymraeg gydag acen gref y Preseli."Sa'in fforso fe, 'na'r ffordd wi'n siarad," meddai hi.
Mae hi'n astudio yng Ngholeg y Drindod, Caerfyrddin ac yn gobeithio dysgu Saesneg mewn ysgol uwchradd.
Ond yn dilyn ei llwyddiant yng nghystadleuaeth Dysgwr y Flwyddyn, dywedodd ei bod hi nawr yn ystyried dod yn athrawes Gymraeg.
Mewn cynhadledd i'r wasg fe'i holwyd am ei hagwedd tuag at y ffrae ynglyn â mewnfudwyr i ardaloedd Cyrmaeg.
Dywedodd ei bod hi'n ymwybodol bod mewnfudwyr yn gallu creu problemau.
"So'n nhw'n trio deall, ac mae hynny'n creu casineb.
"Erbyn hyn mae mwy o blant Saesneg yn nosbarth fy mab na phlant Cymraeg. Ac wi'n meddwl bod hwnna'n drist.
"Ond 'wi wedi gwneud fy rhan. 'Wi wedi cael efeilliad!" ychwanegodd.
|