91热爆


Explore the 91热爆

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Eisteddfor yr Urdd - Caerdydd 2002

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



91热爆 91热爆page

Cymru'r Byd
» Eisteddfod 2002
O'r Maes
Lluniau'r Wythnos
Cefndir
Cysylltiadau
Safle Celf a Chrefft Eisteddfod 2002

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


O'r Maes
Adolygiad: Comedi mewn dosbarth comedi

Rebeccca Harries a Jonathan Nefydd yn perfformio yn y ddramaDrama ysgafn a doniol yn adrodd hanes criw o bobol yn treulio cyfnod mewn dosbarth ysgrifennu comedi yw drama gomisiwn yr eisteddfod eleni. Comedi am ddosbarth comedi felly.

Awdur y ddrama yw Geraint Lewis, awdur cyfarwydd sydd wedi ysgrifennu nifer o ddramâu ar gyfer llwyfan gan gynnwys Y Cinio, Y Groesffordd ac Ysbryd Beca.

Mae'r ddrama wedi ei gosod mewn gwesty rhywle yn Sir Benfro lle cynhelir y cwrs arbennig gan Hywel Owen, uwch-gynhyrchydd cwmni Teledu Taf, a'i wraig Menna, sydd yn ystyried ei hun yn dipyn o actores am fod ganddi slot ar y Noson Lawen.

Achub eu crwyn eu hunain
Mae'r ddau wedi penderfynu cynnal y cwrs mewn ymgais i achub eu crwyn eu hunain gan fod dyfodol cwmni teledu Hywel yn y fantol.

Rebecca Harries, Jonathan Nefydd, Sara Lloyd a Ffion WilkinsWedi llusgo drwy'r eira a'r tywydd garw, i'r dosbarth, mae Hannah, nyrs yn Ysbyty Glangwili, cymeriad a'i thraed ar y ddaear a Nicola, ymchwilydd i'r blaid Lafur yn y Cynulliad. Mae Nicola wedi dod ar y cwrs er mwyn iddi allu ysgafnhau rhyw ychydig ar araith y gwleidyddion, os ydi peth felly'n bosib.

Cymysgedd dda o gymeriadau sy'n creu sylfaen dda i gomedi ac o'r cychwyn cyntaf mae yna ddigon o jôcs a'r gynulleidfa yn amlwg yn mwynhau.

Mae'r sefyllfa ynddo'i hun yn ddoniol, cwrs gyda dim ond dwy yn cymryd rhan a Menna'n gofyn iddyn nhw ysgrifennu eu henwau ar sticeri er mwyn dod i adnabod ei gilydd yn iawn.

Tipyn go lew o ddychan
Mae yma dipyn go lew o ddychan hefyd gyda sawl carfan o'r gymdeithas Gymraeg yn cael ergyd y cyfryngis Cymraeg, y rheiny sy'n gweithio yn y Cynulliad Cenedlaethol, aelodau Plaid Cymru a'r rhai hynny sydd wedi graddio yn y Gymraeg ym mhrifysgol Aberystwyth.

Mae'r llenorion hynny sy'n mynychu cyrsiau creadigol hefyd yn cael tipyn o ergyd. Fel y dywed Hywel Mae' pob siort yn mynd ar y cyrsie' sgwennu hyn. Wannabes."

Hywel a Menna sydd, wrth gwrs, yn cynrychioli'r cyfryngis. Yr unig beth sy'n eu poeni yw plesio S4C a'u cyd-weithwyr ac mae Hywel yn mynnu ein hatgoffa yn barhaus ei fod yn Uwch-gynhyrchydd er bod Menna wedyn yn ei atgoffa ef nad yw erioed wedi cynhyrchu na chyfarwyddo dim yn ei fywyd.

Mae Hywel yn gwneud ei orau i wthio'i hun ar gymaint o gyrff anetholedig ag y medra. Ei uchelgais yw bod yn rhan o bob cwango posib.

Ergyd i Blaid Cymru
Heb ddatgelu gormod mae yna gryn ergyd i Blaid Cymru yma hefyd wrth iddo dderbyn anrhydedd arbennig am ei fod wedi cyfrannu dros £50,000 i'r Blaid dos y blynyddoedd, cyfraniad mor wahanol i gyfraniad ei dad oedd yn ymgyrchydd brwd drosti.

Cyfryngi yw Menna hefyd ond nid i'r un graddau a'i gwr. Er ei bod yn dyheu am fod yn berfformwraig ac yn trysori ei slot ar y Noson Lawen fel aur, mae agwedd hunanol ei gwr yn dân ar ei chroen o bryd i'w gilydd. O ganlyniad mae hi'n dangos i ni sut berson yw Hywel go iawn.

A dyna'r ddwy sy'n mynychu'r dosbarth wedyn. Mae Hannah yn ferch gall ac yn dyheu am fod yn stand-yp. Does dim byd hunanol ynddi hi ac mae ei thraed hi'n sicir ar y ddaear.

Mae Nicola. ar y llaw arall, yn gymeriad cwbwl wahanol. Cymeriad di-liw, di-ddychymyg a chwbwl ddiflas. Mae'n byw i'r Cynulliad Cenedlaethol. Mae hi mor ddiflas nes ei bod yn credu y byddai modd creu comedi o ddarlith ar yr Ewro!

Ymchwilio yw ei phrif ddiddordeb. Mae wrth ei bodd clywed fod ymchwil wedi ei wneud ar wahanol bethau a doniol oedd ei chlywed yn dweud fod ymchwil wedi ei wneud ar ymchwil hyd yn oed.

Adlewyrchu dau dosbarth
Mae'r cymeriadau hyn i gyd wrth gwrs yn adlewyrchu'r ddau ddosbarth sydd o fewn cymdeithas. Felly mae yma ddosbarth ar ddwy lefel felly, dosbarth o fewn y dosbarth comedi fel petai.

Mae grym dosbarth yn amlwg hefyd. Does gan Hannah druan sy'n nyrs ac wedi gweld cymaint o ddioddef o ganlyniad i ddiffygion y gwasanaeth iechyd, ddim grym i newid y sefyllfa.

Mae gan Hywel ar y llaw arall y grym i ddylanwadu yn wleidyddol mewn sawl maes am ei fod wedi llwyddo i wthio'i hun ar yr holl gwangos ac am ei fod wedi prynu dylanwad o fewn Plaid Cymru.

Fel y mae'n dweud droeon yn ystod y ddrama mae popeth yn dibynnu ar gysylltiadau ac adnabod pobol ddylanwadol eraill o fewn y Gymru Gymraeg.

Comedi sy'n taro deuddeg
Yn sicr roedd hon yn gomedi lwyddiannus oedd yn taro deuddeg. Roedd hi'n braf cael noson o adloniant ysgafn ond oedd hefyd yn llawn sylwadau brathog.

Efallai nad oes dim newydd yma gan fod cymaint wedi dychanu'r gymdeithas Gymraeg ddosbarth canol droeon o'r blaen ond dydi hynny ddim yn golygu na allwn fwynhau'r math hwn o adloniant eto.

Efallai na fydd y ddrama hon yn apelio at y rhai sydd yn disgwyl drama ag iddi neges ddwys. Does yna ddim sy'n ddyrys yn y ddrama hon ac adloniant pur yw'r nod.

Mae'r ddrama yn gwbwl wahanol i ddrama gomiwsiwn y llynedd gan fod honno'n ddrama ddwys ac ysgytwol. Ond mae'n braf cael amrywiaeth o flwyddyn i flwyddyn gan ei fod yn brawf fod yr eisteddfod yn ceisio darparu adloniant fydd yn apelio i bawb.

Felly os am noson fywiog a llawn hwyl a chipolwg ddychanol ar y gymdeithas Gymraeg gyfoes ewch i weld y ddramae hon. Dwi'n siwr y byddwch yn ei mwynhau. A hyd yn oed os nad ydych yn mwynhau comedi o'r math hwn fel arfer dwi'n siwr na fyddwch yn gallu ymatal rhag chwerthin ar ambell i jôc, hyd yn oed os ydyn nhw'n agos i'r asgwrn.


Adolygiad Catrin Jones


Bydd Sgript Cymru yn perfformio Dosbarth o nos Lun - nos Wener, Awst 5-9 yn Theatr y Gromlech, Ysgol y Preseli, Crymych a bydd y ddrama'n mynd ar daith rhwng Tachwedd 15fed a Rhagfyr 7fed.




Dydd Sadwrn a Sul
Dydd Llun
Dydd Mawrth
Dydd Mercher
Dydd Iau
Dydd Gwener
Cefndir
Wyddoch chi hyn?

Comedi mewn dosbarth comedi

Yr Archdderwydd newydd

'Lle i enaid gael llonydd'

Araith gyntaf yr Archdderwydd newydd

Heulwen i'r Cymry tramor

'Cadeirydd na fu ei debyg!'

Coron yn deyrnged i fywyd Dewi

Down belows, wês-wês a'r pentigily!

Atgofion Penfro

91热爆 Cymru yn yr Eisteddfod

Blas Gwyddelig i ddarlithoedd

O'r Maes
Cadeirio Pawb yn y Pafiliwn

Medal i Angharad

Steddfod Gwilym Owen - dydd Mawrth

Steddfod Gwilym Owen - dydd Mercher

Cysylltiadau eraill
Safle Celf a Chrefft Eisteddfod 2002



About the 91热爆 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy