Cyfrol y Fedal Ryddiaith ar gryno ddisg
Mae cyfrol fuddugol cystadleuaeth y Fedal Ryddiaith wedi ei gyhoeddi ar ffurf cryno ddisg arbennig ar gyfer y deillion.
Bydd modd i Gymry sydd yn ddall neu yn cael trafferth darllen am eu bod yn wan eu golwg, wrando ar ddarlleniad o O! tyn y gorchudd, cyfrol fuddugol Angharad Price.
Yr actores Maureen Rhys sydd yn darllen y gyfrol ar y gryno ddisg newydd.
Ymwneud â chymeriadau sy'n ddall Dywedodd Joyce Chatterton, Cyfarwyddwraig RNIB (Sefydliad Brenhinol Cenedlaethol y Deillion) Cymru: "Roedden ni'n credu y byddai cyfrol y Fedal Ryddiaith yn addas iawn i'w ddefnyddio fel rhan o'r cynllun am ei bod yn ymwneud â chymeriadau sy'n ddall."
Fel arfer mae'n rhaid i'r deillion ddisgwyl am gyfnod hir cyn y bydd llyfrau sy'n cael eu cyhoeddi yn cael eu trosglwyddo i gyfrwng ar eu cyfer.
Ond y tro hwn fe fyddan nhw'n un o'r rhai cyntaf i ymgolli yng nghynnwys y gyfrol fuddugol.
Rhan o ddatblygiadau pwysig Mae'r cryno ddisg hwn yn rhan o ddatblygiad pwysig yn nhermau darpariaeth lenyddol ar gyfer y deillion.
Mae'n rhan o Wasanaeth Llyfrau Llafar sydd ar gael ar gasetiau ac ar hyn o bryd yn cael eu trosglwyddo i gryno ddisgiau.
Dim ond yn ddiweddar y dechreuwyd trosglwyddo'r deunydd o gasetiau i gryno ddisgiau ac mae'r Gwasanaeth Llyfrau Llafar wedi lansio'r fformat digidol newydd hwn yn yr Eisteddfod eleni.
Yn y lansiad roedd Jenny Randerson, y Gweinidog dros Ddiwylliant, Chwaraeon a'r Gymraeg yn y Cynulliad. Meddai Jenny Randerson: "Mae'r Gwasanaeth Llyfrau Llafar newydd mewn fformat hygyrch ac rwy'n sicr y caiff ymateb cadarnhaol gan y bobol a fydd yn defnyddio'r gwasanaeth".
Hwyluso pethau Mae'r fformat newydd yn hwyluso pethau i'r rheiny sy'n gwrnado ar y deunyddiau hyn.
Meddai Joyce Chatterton: "Mae gwasanaeth Llyfrau Llafar newydd RNIB Cymru yn cynnig gwasanaeth i'r aelodau mewn fformat sydd yn hawdd ei drin. Gall y defnyddwyr ddod o hyd i'w lle yn y llyfr drwy ddefnyddio system ddalen-nodi gyfrifiadurol. Mae hyn yn naid ymlaen o'r hen system dâp...."
Gyda'r hen system dap doedd hi ddim yn hawdd neidio o un lle i'r llall yn y llyfr, ond gyda'r system newydd gellir neidio o un bennod i'r llall yn rhwydd gan fod y penodau i gyd wedi eu gosod ar ffurf traciau unigol.
Bydd pobol yn gallu dalen-nodi hoff rannau a dod o hyd i benodau neu adrannau yn hawdd. Fe fyddan nhw'n gallu diffodd eu Llyfr Llafar ac wedyn dechrau eto yn union yr un lle pan fyddan nhw'n dymuno ail-ddechrau gwrando.
Gwell ansawdd sain Hefyd mae ansawdd sain y cryno ddisgiau yn llawer gwell nag ansawdd y casetiau.
Dywedodd Joyce Chatterton: "Mae'n warth mai dim ond 5% o ddeunydd darllen sydd ar gael mewn fformatau y gall pobol ddall neu â golwg rhannol eu darllen. Yr ateb yw sicrhau fod amrywiaeth helaethach o lyfrau ar gael a sicrhau eu bod ar gael i gymaint o bobol ac sydd bosib."
Erbyn hyn mae gan dros 50,000 o bobol ar hyd a lled Prydain y peiriant newydd hwn. Ond fe fydd yn cymryd tipyn o amser i bawb ddod i arfer â'r peiriant newydd.
|