Seremoni arbennig i anrhydeddu'r dramodwyr
Am y tro cyntaf ers pedair mlynedd ar ddeg roedd yna deilyngdod ymhob un o gystadlaethau cyfansoddi adran ddrama'r Eisteddfod Genedlaethol eleni.
Cafwyd seremoni arbennig yn Theatr y Maes brynhawn dydd Gwener i anrhydeddu'r dramodwyr a ddaeth i'r brig yn y cystadlaethau hyn.
Roedd hon yn seremoni wahanol i'r arfer ac yn wledd i'r glust ac i'r llygad. Ymdrech oedd hyn i ddyrchafu seremoni sydd wedi ei gwthio i'r naill ochr yn ystod y blynyddoedd diwethaf.
Cafodd seremoni anrhydeddu'r Prif Ddramodydd ei dileu ddeng mlynedd yn ôl am fod y wobr wedi ei hatal gymaint o weithiau.
Seremoni gwerth chweil Eleni mae Pwyllgor Drama'r Eisteddfod wedi gwneud ymdrech arbennig i wneud seremoni gwerth chweil i anrhydeddu'r enillydd yn y gystadleuaeth honno a'r buddugwyr eraill.
Carys Edwards, Pennaeth yr Adran Ddrama yn Ysgol Maes yr Yrfa, Cwm Gwendraeth oedd wedi trefnu'r seremoni arbennig hon ac yn cymryd rhan roedd artistiaid o Sir Benfro, Sir Gaerfyrddin ac aelodau o Banel Drama'r Eisteddfod.
Y brif gystadleuaeth oedd y gystadleuaeth cyfansoddi drama hir oedd yn cael ei beirniadu gan Bethan Jones a Siân Summers ac a oedd yn cynnig gwobr ariannol o £4,200 sydd yn cynnwys rhodd ariannol o £3000 gan Gwmni Theatr Cymru. Yr enillydd oedd Cefin Roberts o Fangor.
'Tad Glanaethwy' yn ennill Mae Cefin Roberts yn enwog fel actor, diddanwr ac yng ngeiriau Carys Tudor Williams, "Tad Ysgol Glanaethwy".
Perfformiwyd ei ddrama fuddugol, Cyn Delwyf i Gymru Nôl gan Catrin Jones, Pennaeth Adran Ddrama Ysgol y Creuddyn a Heulwen Jones o Theatr Fach Llangefni.
Mae'r ddrama'n adrodd hanes dau ffrind coleg a'u gwragedd yn mynd ar wyliau i Dubai. Ond yn mae'r ddau ffrind wedi newid tipyn ers dyddiau coleg ac felly llugoer yw'r berthynas rhyngddyn nhw.
Mae nhw wedi newid o ran syniadau gwleidyddol a'u golwg ar fywyd ac mae hyn yn creu tensiwn rhyngddyn nhw.
Ysgrifennu ar wyliau Ysgrifennodd Cefin y ddrama tra roedd ef ei hun ar wyliau yn Dubai gyda'i wraig Rhian. Meddai "Roeddwn i wedi bod yno rhyw dridiau ac wedi dechrau anghofio am waith ac mi es i fy stafell rhyw ddiwrnod ar ôl bod yn eistedd ar y traeth ac mi gefais i'r awydd i sgwennu rhywbeth. Felly mi es i i'r siop i brynu papur a dechrau sgwennu."
Erbyn diwedd y gwyliau roedd ganddo gynllun bras ar gyfer yr act gyntaf. Ond ymhen ychydig ddyddiau wedyn digwyddodd trychineb Medi'r 11fed a ysgydwodd y byd gorllewinol.
Meddai Cefin "Roedd hyn yn creu ychydig o broblem lle roedd y ddrama yn y cwestiwn gan fod angen i mi wneud rhywbeth oedd yn adlewyrchu hyn.
"Felly mi orffennais i'r act gyntaf efo'r ddau ffrind gorau yn ffraeo ac yn pellhau oddi wrth ei gilydd. Ar y sgrîn deledu o'u blaenau mae'r tyrrau'n disgyn.
"Y cwestiwn felly yw a yw digwyddiad erchyll fel hyn yn mynd i ddod â'r ddau ffrind at eu coed? Mi ddefnyddiais i'r digwyddiad felly i wthio'r ddrama yn ei blaen."
Hunllef pob awdur Ond ar ôl yr holl waith caled a thra roedd bron â gorffen y ddeialog yn yr act cyntaf fe ddigwyddodd yr hunllef fwyaf y mae pob awdur yn ei ofni. Fe gollodd Cefin Roberts yr holl waith oddi ar sgrîn ei gyfrifiadur!
Roedd wedi digalonni fel y gellid dychmygu ond llwyddodd Rhian ei wraig ei berswadio i ail ysgrifennu. Yn ffodus roedd wedi cadw nodiadau manwl o'r gwyliau yn Dubai ac felly ar ei wyliau nesaf, yn Iwerddon dros y flwyddyn newydd, aeth ati i ail ysgrifennu.
A dyna sut y daeth y ddrama fuddugol i fodolaeth.
Gwr adnabyddus oedd yn fuddugol yn y gystadleuaeth Cyfansoddi Drama Fer hefyd sef Emyr Edwards o Gaerdydd. Yn beirniadu'r gystadleuaeth roedd Euros Lewis a Sera Moore Williams.
Gwobr i ddarlithydd Mae Emyr Edwards yn adnabyddus fel cyfarwyddwr, actor, cyfieithydd a dramodydd. Ar hyn o bryd mae'n ddarlithydd ar y cwrs Theatr Cerdd a'r Cyfryngau yng Ngholeg y Drindod, Caerfyrddin gan ddarlithio mewn Theori Actio ar y cwrs MA.
Mae Cefin Roberts ac Emyr Edwards wedi ysgrifennu nifer o sioeau cerdd. O ganlyniad digwyddodd rhywbeth go wahanol yn y seremoni anrhydeddu eleni. Cafwyd dau berfformiad o ddwy sioe gerdd.
I anrhydeddu Emyr Edwards canwyd cân o'r sioe gerdd Branwen a ysgrifennwyd ganddo ef ac Euros Lewis ac i anrhydeddu Cefin Roberts canwyd cân o'r sioe gerdd a ysgrifennwyd ganddo ef a Gareth Glyn.
Roedd hyn yn ychwanegu elfen glywedol i'r seremoni eleni. Hefyd cawsom weld detholiad o'r ddwy ddrama fuddugol.Comisiwn i Fflur Yn ystod y seremoni yn ogystal datgelwyd mai Fflur Dafydd oedd wedi derbyn y comisiwn sy'n cael ei wobrwyo yn flynyddol i ddramodwyr newydd i fynd ati i ysgrifennu drama fer.
Yn y gorffennol mae Paul Griffiths a Dylan Wyn Williams wedi derbyn y comisiwn hwn. Mae'n debyg y bydd drama orffenedig Dylan yn cael ei pherfformio yn Eisteddfod Maldwyn a'r Gororau y flwyddyn nesaf.
Fflur Dafydd a enillodd y gystadleuaeth Cyfansoddi Sgript ar gyfer teledu oedd yn cael ei beirniadu gan Delyth Wyn.
Yn fuddugol yn y gystadleuaeth Cyfansoddi Sgript i'w pherfformio gan blant, oedd yn cael ei beirniadu gan Eirwen Hopkin, roedd Stephen Jones o Dreffynnon.
Enillydd y gystadleuaeth Trosi Drama i'r Gymraeg, oedd yn cael ei beirniadu gan Ioan Williams, oedd Lyn Jones. Fe aeth ef ati i drosi The Field drama John B Keane i'r Gymraeg.
Yn olaf, daeth Llifon Jones o Landrillo yn Rhos ddaeth i'r brig yn gystadleuaeth Cyfansoddi Sgets oedd yn cael ei beirniadu gan Iwan John.
I gloi seremoni anrhydeddu'r dramodwyr perfformiodd rhai o ddisgyblion Ysgol Maes yr Yrfa Ddawns y Masgiau.
|