Cysuron i garafanwyr
Trydan a'u ty bwyta eu hunain - dim ond dau o'r cysuron y mae'r Eisteddfod Genedlaethol yn ystyried eu paratoi ar gyfer trigolion ei maes carafanau.
Ac ar y maes yn Nhyddewi eleni bu hanner cant o garafanwyr yn cymryd rhan mewn arbrawf lle darparwyd trydan iddyn nhw am dâl ychwanegol o £20 uwchlaw y pris arferol.
Hefyd, dosbarthwyd holiaduron ymhlith holl drigolion y maes carafanau yn eu holi am eu dymuniadau hwy ar gyfer y dyfodol.
Pwysleisiodd Elfed Roberts, cyfarwyddwr yr Eisteddfod, fod trigolion y maes carafanau yn gwsmeriaid mor bwysig i'r Eisteddfod y'i bod yn bwysig sicrhau y ddarpariaeth orau bosib ar eu cyfer.
Ar wahan i'r ddarpariaeth drydan ymhlith y cysuron eraill sy'n cael eu hystyried ar gyfer y flwyddyn nesaf y mae ty bwyta ar y maes carafanau ac hefyd gyfleusterau gofal plant.
"Byddai hynny'n golygu y gallai rhieni adael eu plant mewn rhywle diogel dan lygaid arbenigwyr," meddai Mr Roberts.
"Gwasanaeth i'r cwsmer sy'n bwysig yn yr achos hwn ac y mae carafanwyr yn gwsmeriad pwysig iawn cyn belled ag y mae'r Eisteddfod yn y cwestiwn gan eu bod nhw yma drwy'r wythnos," meddai.
|