'Rhaid i'r Steddfod ddal i grwydro' - Llywydd
Steddfod a gerddo a gaiff! Rhoddodd llywydd Llys yr Eisteddfod Genedlaethol ei gefnogaeth lwyr i Brifwyl sy'n symud o le i le o amgylch Cymru.
Mae hynny, yn ôl y Dr Aled Lloyd Davies, yn llesol nid yn unig i'r ardaloedd yr ymwelir â hwy ond i'r Eisteddfod ei hun hefyd.
Yn annerch yn ystod y seremoni agoriadol yn Nhyddewi nos Wener dywedodd y Dr Davies fod rhai yn dadlau y byddai'r Eisteddfod yn rhatach i'w chynnal, yn gallu cael gwell cyfleusterau ac yn haws i'w gweinyddu o gael ei chynnal mewn dwy neu dair o ganolfannau sefydlog.
Ond gan gyhoeddi,"Symudol ddylai y Brifwyl fod" rhybuddiodd y byddai ardaloedd fel Tyddewi ar eu colled heb ymweliadau'r Eisteddfod a'u hwb i ddiwylliant lleol.
Yn ychwanegol at hynny byddai' colli'r "trallwysiad" o ynni sy'n cael ei sbarduno yn y gwahanol fröydd "yn golled arswydus i'r Eisteddfod ei hun," meddai.
Talodd deyrnged arbennig i'r ymdrechion a fu ym Mhenfro i godi arian i gynnal yr Wyl.
Cyfrannodd awdurdodau lleol £276,000 a denodd yr eisteddfod hon fwy o nawdd gan ddiwydiant a masnach nag unrhyw Eisteddfod Genedlaethol o'r blaen, £400,000.
Casglodd trigolion sir Benfro, hwythau, £185,000 tuag at y gronfa leol.
Ar y llwyfan gydag Aled Lloyd Davies yn cyhoeddi agoriad yr Eisteddfod yr oedd yr aelod seneddol lleol, Jackie Lawrence a'r aelod lleol ar y Cynulliad Cenedlaethol, Richard Edwards, yn ogystal â chadeirydd y pwyllgor gwaith, y Cynghorydd John Thomas.
Canwyd y cywydd croeso gan Barti'r Gromlech gyda gwahoddiad i bobl o bob cwr o Gymru i "wlad y dewin lle mae hud a rhyfedd rin" heb sôn am "swyn y wês wês".
|