1972
Waldo Williams Bardd mawr Sir Benfro a phwysigrwydd ei gefndir Saesneg oedd iaith aelwyd y bardd a'r athro Waldo Williams ( 1904 - 1971 ), a anwyd yn Hwlffordd. Soniodd sawl gwaith mai yn Saesneg y dechreuodd ef a'i chwaer Morfydd farddoni gyntaf. Newidiodd ei fyd, ei gymdeithas a'i iaith pan symudodd y teulu i Fynachlog Ddu i fyw, ac fe ddaeth maes o law yn un o feirdd mwyaf ac anwylaf y Gymraeg. Un gyfrol yn unig o gerddi a ddaeth o'i law, ond y gyfrol honno oedd Dail Pren sydd yn un o glasuron yr iaith, ac yn gyfrol a roddodd i lenyddiaeth Cymru rai o'i cherddi grymusaf, megis 'Mewn Dau Gae'. 'Roedd Waldo hefyd yn heddychwr mawr a dorrodd y gyfraith er mwyn ei egwyddorion. Gofynnir iddo yn y cyfweliad hwn os oedd y ffaith iddo gael ei eni a'i fagu yn Sir Benfro wedi dylanwadu ar ei farddoniaeth.
Clipiau perthnasol:
O Lleisiau'r Gynt darlledwyd yn gyntaf 29/04/1972
Er mwyn ichi wylio'r darn hwn bydd rhaid ichi osod chwaraewyr Real ar eich cyfrifiadur. Cewch gymorth yma i osod RealPlayer, ac i
|