1925
Gwenallt Y bardd o Gwm Tawe yn sôn am ei grefydd a'i wleidyddiaeth Disgrifiwyd y bardd, yr ysgolhaig, y gwerinwr a'r gwleidydd Gwenallt (David James Jones) gan y diweddar brifardd Dafydd Rowlands fel "y bardd yn y wal", a hynny am fod carreg goffa iddo mewn wal ar ymyl y sgwâr ym mhentre Pontardawe. Dyna'r pentref lle ganed Gwenallt yn 1899 cyn i'r teulu symud i'r Alltwen. Pobol o Sir Gaerfyrddin oedd ei rieni ac fe rannodd Gwenallt ei blentyndod rhwng tawelwch cefn gwlad a swn pentrefi diwydiannol Pontardawe a'r Alltwen. Bu'n ddarlithydd yn ddiweddarach yn Adran Gymraeg Prifysgol Aberystwyth, ac yn 1968, blwyddyn ei farw, gwahoddwyd ef i ddarlithio yng nghapel Soar, Pontardawe. 'Cynefin' oedd ei destun ond crefydd a gwleidyddiaeth sy'n cael ei sylw yn y darn yma o'r recordiad.
Clipiau perthnasol:
Canfod mwy am...
O Darlith radio darlledwyd yn gyntaf 14/12/1967
Er mwyn ichi wylio'r darn hwn bydd rhaid ichi osod chwaraewyr Real ar eich cyfrifiadur. Cewch gymorth yma i osod RealPlayer, ac i
|