1960
Rhydwen Williams Bardd 'Y Ffynhonnau' a chymoedd y de Fe fu'r bardd a'r llenor Rhydwen Williams (1916 - 1997) yn weinidog, yn ddarlledwr, yn storïwr ac yn aelod o gwmni teledu masnachol. Ganwyd ef ym Mhentre, Cwm Rhondda, ac er iddo symud gyda'i deulu i Gaer yn ei arddegau, 'roedd ei wreiddiau a'i galon yn dal yn y Cwm. Dychwelodd yn ddiweddarach yn weinidog gyda'r Bedyddwyr i Ynyshir. Enillodd goron Eisteddfod Genedlaethol Aberpennar yn 1946 ac eto yn Abertawe ym 1964. Cyhoeddodd nifer o gyfrolau o farddoniaeth ac mae hanes bywyd y glowr a'r Rhondda yn themâu pwysig yn ei nofelau. Yn 1972 yn y gyfres, 'Y Llwybrau gynt', fe soniodd am ei fachgendod a hynny yn ei lais cyfoethog, cyfarwydd.
Clipiau perthnasol:
Canfod mwy am...
O Y Llwybrau Gynt, Cloddio'r Aur darlledwyd yn gyntaf 15/04/1987
Er mwyn ichi wylio'r darn hwn bydd rhaid ichi osod chwaraewyr Real ar eich cyfrifiadur. Cewch gymorth yma i osod RealPlayer, ac i
|