1973
Dic Jones Y cynganeddwr o Geredigion a gipiodd gadair y Brifwyl Ffarmwr yw Dic Jones, a aned yn 1934, a Cheredigion yw ei filltir sgwâr. Mae'n un o feirdd mwyaf poblogaidd y Gymru gyfoes a chanddo'r ddawn i wefreiddio mewn cynghanedd ac mewn rhyddiaith. Enillodd Gadair Eisteddfod Genedlaethol Aberafan yn 1966. Mae'n ddarlledwr poblogaidd a'i ffraethineb yn enwog. Gall lunio englyn neu gwpled lleddf neu ddoniol mewn chwinciad. Bu'n aelod o dîm y De yn y gyfres radio boblogaidd 'Penigamp' lle bu'n difyrru cynulleidfaoedd mewn ysgolion a neuaddau pentref gyda'i sgetsys, jôcs a'i rigymau doniol ar y pryd.
Clipiau perthnasol:
O Cywain; 50 years of broadcasting darlledwyd yn gyntaf 16/02/1973
Er mwyn ichi wylio'r darn hwn bydd rhaid ichi osod chwaraewyr Real ar eich cyfrifiadur. Cewch gymorth yma i osod RealPlayer, ac i
|