1960
T H Parry-Williams Y bardd o Ryd-ddu a enillodd gadair a choron y Brifwyl ddwyaith Ganwyd Thomas Herbert Parry-Williams ( 1889 - 1975 ) yn Rhyd-ddu ger Caernarfon, yn fab i'r ysgolfeistr lleol. Astudiodd ym Mhrifysgolion Aberystwyth, Rhydychen, Freiburg a Pharis. Ef oedd y cyntaf i ennill y Gadair a'r Goron yn yr un flwyddyn, a hynny yn 1912 yn Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam. Cyflawnodd yr un gamp eto ym Mangor yn 1915. Bu'n Athro Cymraeg ym Mhrifysgol Aberystwyth o 1920 i 1952. 'Roedd yn hoff iawn o deithio ac yn 1925 aeth ar fordaith o gwmpas y byd. 'Roedd yn ddarlledwr cyson a'i lais unigryw yn denu'r gwrandawyr.
Clipiau perthnasol:
Canfod mwy am...
O Dylanwadau: Parry Williams darlledwyd yn gyntaf 16/06/1960
Er mwyn ichi wylio'r darn hwn bydd rhaid ichi osod chwaraewyr Real ar eich cyfrifiadur. Cewch gymorth yma i osod RealPlayer, ac i
|