1940
T E Nicholas 'Niclas y Glais', a garcharwyd am ei egwyddorion heddychol Roedd y bardd a'r darlithydd T.E.Nicholas (1878 - 1971) yn un o ffigyrau amlycaf y Chwith wleidyddol yn y Gymru Gymraeg. Ganwyd ef yn Llanfyrnach, Sir Benfro. Aeth i Academi'r Gwynfryn yn Rhydaman ac fe'i ordeiniwyd yn weinidog yn Llandeilo. Bu'n gweinidogaethu yn y Glais, Cwm Tawe 1904 ac 1914 ac fe fabwysiadodd enw'r pentre hwnnw iddo ef ei hun. Gweithiodd yn frwdfrydig iawn dros y Blaid Lafur gan ddosbarthu llenyddiaeth ymysg y gweithwyr. Yn ystod yr Ail Rhyfel Byd fe'i carcharwyd am feirniadu'r Llywodraeth. Yn y darn hwn mae'n sôn am y profiad yn y carchar.
Clipiau perthnasol:
O Argraff darlledwyd yn gyntaf 19/07/1965
Er mwyn ichi wylio'r darn hwn bydd rhaid ichi osod chwaraewyr Real ar eich cyfrifiadur. Cewch gymorth yma i osod RealPlayer, ac i
|