Cafodd David Davies ddechrau da i'r ras ond wedi arwain am y 300m agoriadol, daeth yr Albanwr David Carry drwodd a chipio'r fedal aur mewn amser o 3mun 48.17eiliad.
Ac yn y 50m olaf, llwyddodd Andrew Hurd o Ganada i ddod trwodd a chasglu'r arian.
Gyda'i hoff ras, y 1500m dull rhydd, eto i ddod, bydd y gŵr o'r Barri yn hapus iawn â'i berfformiad a record Gymreig yn y 400m.
> Medal efydd i Davies
MANYLION GEMAU'R GYMANWLAD
>
Tabl y medalau
> Canlyniadau Iau 16 Mawrth
BEICIO
Cafwyd eiliad hanesyddol yn y felodrom wrth i Loegr sicrhau'r fedal aur, arian ac efydd yn y 4000m unigol.
Paul Manning gafodd y fedal aur wrth iddo guro Rob Hayles yn y rownd derfynol a threchodd Stephen Cummings y Kiwi, Marc Ryan, er mwyn casglu'r efydd.
> Beicwyr yn creu hanes
CODI PWYSAU
India gafodd medal aur cyntaf gemau Melbourne 2006 wrth i'r codwr pwysau, Kunjarani Devi, amddiffyn ei choron yn y 48kg i ferched.
Gorffennodd y ferch o India â chyfanswm o 166kg gyda Marilou Dozois-Prevost o Ganada yn casglu'r arian â 165kg tra bo Erika Yamasaki o Awstralia yn cymryd yr efydd â 153kg.
NOFIO
Cipiodd Yr Alban y fedal aur cyntaf yn y pwll nofio â ras wych gan Caitlin McClatchey yn y 200m dull rhydd.
Llwyddodd i dorri record y Gemau ag amser o 1:57.25 a sicrhau fod y ffefryn, Lisbeth Lenton o Awstralia, yn gorfod bodloni ar fedal arian.
Gorffennodd Julie Gould yn wythfed yn rownd derfynol y 200m medley unigol wedi iddi orffen yn drydydd yn ei ras rhagbrofol.
Mae Lowri Tynan drwodd i rownd derfynol y 50m dull broga a gorffennodd wedi iddi orffen yn drydydd yn ei ras gynderfynol.
Ond methodd Jemma Lowe â chyrraedd rownd derfynol 50m pili pala wedi iddi orffen yn seithfed yn ei ras yn y rownd gynderfynol.
RYGBI 7-POB-OCHR
Er i Gymru roi braw i Seland Newydd, colli 35-10 oedd eu hanes yn erbyn deiliad y gystadleuaeth yn eu gêm agoriadol.
Tarodd Cymru'n ôl yn eu hail gêm gan chwalu Kenya 33-0 ac wedi trechu Namibia 40-7, mae Cymru'n camu ymlaen i rownd yr wyth olaf.
> Cymru i wynebu Fiji
Ond cafwyd ambell i sioc yn gynharach yn y dydd wrth i Ganada drechu'r Alban 10-7 yn eu gêm agoriadol yng Ngrŵp 1.
Ac yng Ngrŵp 4 llwyddodd Tonga i drechu De Affrica 26-19.
SBONCEN
Sicrhaodd Gavin Jones ei le yn nhrydedd rownd senglau'r dynion â buddugoliaethau gwych dros Mansoor Zaman o Bacistan yn y rownd gyntaf cyn iddo drechu O'neil Chilambwe o Zambia yn yr ail rownd.
Ac ymunodd Alex Gough ag ef yn yr 16 olaf wedi James Stout o Bermuda dynnu allan o'r gystadleuaeth ag anaf gyda'r sgôr 9-4 9-1 1-7 o blaid y Cymro.
Ond methodd David Evans â chwblhau'r triawd wedi David Palmer o Awstralia ei drechu 9-2 9-4 9-6 yn yr ail rownd.
Cafwyd llwyddiant yng nghystadleuaeth y merched hefyd wrth i Tegwen Malik chwalu Nirasha Guruge o Sri Lanka yn rownd gyntaf senglau'r merched.
TENIS BWRDD
Yng nghystadleuaeth timau'r dynion, llwyddodd Adam Robertson, Ryan Jenkins a Stephen Jenkins i sicrhau buddugoliaethau cymharol hawdd dros dimau Guyana a Kenya yng Ngrŵp C.
Ac yng nghystadleuaeth y merched llwyddodd Naomi Owen, Bethan Daunton a Siwan Davies i drechu Mauritius yn