Llwyddodd tîm gymharol di-brofiad Cymru i roi braw i'r deiliaid, Seland Newydd, yng ngêm agoriadol y grŵp.
Roedd y Crysau Duon yn gyfforddus ar yr egwyl wedi ceisiau gan Soseni Anesi a Tafai Ioasa, gyda'r cyntaf yn dod wedi 21 eiliad.
Ond tarodd Cymru yn ôl ar ddechrau'r ail hanner â dau gais sydyn gan Rhodri McAtee a Gethin Williams.
Roedd hynny'n ddigon i ddychryn Seland Newydd a chafwyd cais gan Cory Jane cyn i Liam Messam selio'r fuddigoliaeth wedi Jonathan Edwards gael ei hel i'r cell callio.
Yn eu hail gêm llwyddodd Cymru i ddod yn ôl a chwalu Kenya 33-0 cyn trechu Namibia 40-7 yn eu gêm olaf.
Llwyddodd Fiji i orffen ar frig eu grŵp rhagbrofol wrth drechu Canada, Ynysoedd Niue a'r Alban.
Rownd yr wyth olaf:
Seland Newydd v Canada
De Affrica v Awstralia
Lloegr v Samoa
Fiji v Cymru
|