Sicrhaodd Davies fedal gyntaf Cymru ym Melbourne, gan gipio'r fedal efydd yn rownd derfynol 400m y dull rhydd.
Roedd y nofiwr o'r Barri ar y blaen wedi 300m ond gorffennodd yn drydydd y tu ôl i'r Albanwr, David Corry gipiodd aur gydag Andrew Hurd o Ganada yn ail.
>
"Nid hon yw fy mhrif gystadleuaeth felly rwy'n falch o fod wedi ennill medal," meddai Davies.
"Rwyf wedi gosod record bersonol newydd a record Gymreig felly ni allwn achwyn yn ormodol.
"Ond teimlaf y gallwn fod wedi mynd yn gyflymach, ond blinodd fy nghoesau tua'r diwedd.
"Dwi'n falch i fod wedi ennill medal. Byddwn wedi hoffi body n gyflymach ond mae'n rhywbeth i'w ddysgu ar gyfer y dyfodol.
"Gobeithio y gall hyn arwain at Gymru yn ennill nifer fawr o fedalau erbyn diwedd y Gemau."
Bydd Davies yn awr yn troi ei olygon at y 1500m ac yn gobeithio cipio medal aur cyntaf Cymru yn y pwll nofio ers 1974, gyda'r rowndiau rhagbrofol yn dechrau dydd Llun.
Mae Davies yn cael ei ystyried yn ffefryn, gyda'r pencampwr Olympaidd Grant Hackett yn absennol oherwydd anaf.
Daeth llwyddiant Corry yn dilyn buddugoliaeth i'r Alban yn rownd derfynol gyntaf y gystadleuaeth nofio.
Enillodd Caitlin McClatchey y fedal aur yn 200m dull rhydd i ferched, gan guro'r ffefryn Libby Lenton o Awstralia.
|