Sicrhaodd y Saeson y medalau aur, arian ac efydd - y tro cyntaf erioed i wlad ennill tair medal mewn un cystadleuaeth beicio yn Ngemau'r Gymanwlad.
Paul Manning sicrhaodd y fedal aur, gyda Rob Hayles yn ail a Stephen Cummings yn drydydd.
Yn rownd derfynol y ras 1000m yn erbyn y cloc, cipiodd y Sais Jason Queally fedal arian gyda'r Albanwr, Chris Hoy yn ennill medal efydd.
Gorffennodd Queally 0.034 eiliad y tu ôl i Ben Kersten o Awstralia, gan hawlio ei drydydd medal arian yn olynol.
Dechreuodd Hoy, oedd yn amddiffyn y goron enillodd ym Manceinion yn 2002, yn gyflym ond ni wnaeth ddigon i ddisodli Kersten.
|