Mae cymorth parod ar gael a chewch groeso cynnes a chyfeillgar gan y criw o dri. Fe fydd Steve, Elin a Steve (oes, mae yna ddau i'ch cymhlethu chi ) yno i'ch cynorthwyo i ddefnyddio'r cyfrifiaduron, i syrffio'r we yn llwyddiannus a'ch galluogi i gyfrannu, naill ai i'r wefan hon neu i raglenni teledu a radio'r 91Èȱ¬.
Steve Lloyd
"Fi yw'r cynhyrchydd sydd yng ngofal bws 91Èȱ¬ Cymru a'r tîm. Cefais fy ngeni yn Sir Gaerfyrddin, ac rwy'n dal i fyw yn y sir ... ac os hoffech anfon cerdyn yna mae fy mhen-blwydd ar Ddydd Sant Padrig!
"Pan oeddwn i'n yr ysgol, roeddwn i'n DJ Disgo symudol, ac yn gyflwynydd ar Radio ysbyty Glangwili. Fe weithiais fel cyflwynydd dwyieithog a chynhyrchydd radio masnachol am dros ugain mlynedd, cyn ymuno â 91Èȱ¬ Cymru.
"Rwy'n mwynhau gweithio ar brosiect cyffrous y Stiwdios Cymunedol, ac yn edrych ymlaen at gyfarfod a sgwrsio gyda phobol, a darlledu o fws 91Èȱ¬ Cymru. Yn fy amser hamdden, dw i'n mwynhau cerddoriaeth, teithio, ffuglen wyddonol a (gwylio!) rygbi."
Elin Wyn Rowlands
"Helo, Elin ydw i. Cymraeg yw fy iaith gynta' ac rwy'n byw ym Machynlleth. Cefais fy magu yn y dref farchnad hynafol hon yng ngogledd Powys, a mynychais Ysgol Bro Ddyfi. Derbyniais radd mewn Cerddoriaeth a Chymraeg gan Brifysgol Cymru Bangor cyn parhau yn y Coleg ar y Bryn i ddilyn cwrs MA mewn Newyddiaduraeth Ymarferol.
Rwyf bellach wedi dychwelyd i'm bro, i weithio ar brosiect newydd ac arloesol gan y 91Èȱ¬ - sef y bws! Wrth i'r bws ymweld â llefydd ar hyd a lled y canolbarth fy ngwaith i fydd chwilio am straeon lleol diddorol, helpu pobl i syrffio'r we ac i gyfrannu i wefannau fel hon.
"Rwy'n mwynhau fy ngwaith yn fawr - cyfarfod â phobol newydd a chael ymweld â llefydd bendigedig ar draws y canolbarth.
"Mae fy niddordebau'n cynnwys cerddoriaeth, chwaraeon a chymdeithasu. Caf bleser yn gwylio pob math o chwaraeon gan gynnwys pêl droed, rygbi, tennis a snwcer. Rwyf hefyd yn canu'r piano a'r corned, ac wrth fy modd yn mynychu pob math o wyliau a sioeau, megis yr Eisteddfod Genedlaethol, y Sioe Frenhinol yn Llanelwedd a Sesiwn Fawr Dolgellau."
Steve Jarvis
"Cefais fy ngeni a'm magu yng ngwm Tawe, de Cymru. Gadewais yr ysgol i sefydlu fy musnes fy hun, ond fe'i werthais fel busnes gweithredol ym 1998. Rwy'n briod gyda dau o blant ac yn dal i fyw yn yr ardal.
"Roedd 1998 yn flwyddyn o newid llwyr i fi, gan i mi fentro ar yrfa gyda Formula Un, yn teithio'r byd yn yn ffilmio ac yn amseru gyrwyr enwog fel Michael Schumacher gyda Ferrari a David Coulthard gyda McClaren. Rwy'n ystyried fy hun yn ffodus iawn, gan fy mod wedi teithio'r byd gyda rasio Formula Un. Bu'r profiad yn gyfle i mi weld cymaint o olygfeydd anhygoel, a phrofi blas cynifer o ddiwylliannau gwahanol.
"Er gwaetha'r bywyd cyffrous a'r lleoliadau ecsotig, yr oeddwn yn hiraethu am adref, a dyna pryd wnes i gais am y swydd hon gyda'r 91Èȱ¬. Rwy'n ystyried y gwaith yn sialens ac yn bennod newydd cyffrous yn fy mywyd.
"Ymhlith fy niddordebau mae rygbi, pêl droed, nofio, teithio bwyd da a gwin. Mae gen i fywyd cymdeithasol llawn ac rwy'n mwynhau treulio fy amser hamdden gyda'm teulu a'm ffrindiau."