O 24-26 o Fedi 2006, aeth disgyblion Safon Uwch Cymraeg ysgolion Llambed, Dyffryn Teifi a Thregaron ar y cyd, ar daith lenyddol i Ogledd Cymru. Dyma gyfle gwych i weld lleoliadau a chefndir y beirdd a'r awduron a astudir yn ogystal â chael cyfle i gymdeithasu â chyfoedion.
Ar fore Sul y 24ain gadawon yr ysgol am ddeg o'r gloch a theithio'n griw hwyliog tua'r gogledd. Y stop cyntaf oedd Morrisons Aberystwyth! Awr yn ddiweddarach a'r troli'n llawn, dyma ni'n mentro i Gorris i gael picnic.
Ymlaen wedyn i Drawsfynydd ac ymweld â'r Ysgwrn, sef cartref y Prifardd Hedd Wyn. Cawsom wledd yno a chroeso cynnes gan Gerald Williams, nai Hedd Wyn. Cawsom hanes diddorol y Gadair Ddu dan arweiniad Gerald a'i ffrind Huw. Gadawom aelwyd gynnes Yr Ysgwrn a golygfeydd godidog Trawsfynydd a theithio trwy Fwlch Drws y Coed tuag at 'HQ' sef Tŷ'r Ysgol, Rhyd-ddu.
Ar ein ffordd yno ymwelwyd â man geni R.Williams Parry a'i gofeb yn Nhalysarn. Creodd hyn gryn gyffro ar y bws. Ar ôl cyrraedd ac ymgartrefu yn 'Nhŷ'r Ysgol' sef cartref T. H. Parry-Williams, aethom i Feddgelert i ymweld â'i fedd. Gwelon fedd Gelert hefyd (a gweld Gelert ei hun yn y cysgodion!) Nôl â ni wedyn i gael gwledd o Spaghetti Bolognase yn Nhŷ'r Ysgol a gemau di-ri cyn mynd i'r gwely.
Dihunom wedi glynu wrth y matresi plastig (!) a chael sioc o weld fod dŵr yn morio i'n hystafell! Doedd dim angen gwylltio - roedd y gawod wedi bod yn ddiffygiol ers blwyddyn! Brecwast cynnar ar ôl mopio'r llawr ac ymlaen â ni i Fethesda a Dyffryn Ogwen gan gwrdd â H. Elwyn Hughes a chael taith ddiddorol yn ei gwmni. Buom yn ymweld â lleoliadau anhygoel y nofel Un Noson Ola Leuad a dysgu llawer drwy wrando ar yr arbenigwr hwn. Ymwelsom wedyn â chwarel y Pen-rhyn (pwy all anghofio lliw glas y dŵr) a bedd R.Williams Parry a Caradog Prichard. Bore cofiadwy iawn.
Erbyn hyn roedd yn amser cinio - y stop nesaf oedd Cofi Roc, Caernarfon, mmmm - ffein! Dros y bont i Sir Fôn wedyn i weld bedd Cynnan a ..... chredwch neu beidio - set ROWND A ROWND! Aeth pawb ar y bws yn wyllt, felly aethom rownd eto gan ganu'r corn!
Nôl â ni wedyn i Abergwyngregyn lle cawsom hanes anhygoel Gwellion, Llywelyn ein Llyw Olaf, Llywelyn Fawr a Siwan, dan arweiniad Kathryn Gibson sy'n byw nawr yn Llys Pen-y-bryn. Roedd yn brofiad a hanner edrych tuag at Lanfaes o'r tŵr.
Roedd yn bryd dychwelyd i Ryd-ddu a chyn swper aeth criw ohonom drwy'r brwyn i Lyn y Gadair. Nôl wedyn i wledda - llond padell o selsig à la Enfys, mwy o gemau a llawer mwy o gloncan yng nghwmni Mrs James tan oriau mân y bore! Diolch i Delor James, Sian Eirug ac Elin Williams am feirniadu'r limrigau a'r brawddegau.
Daeth diwrnod ola'r daith a'r haul yn dal i dywynnu a'r golygfeydd yn hudol. Cawsom gyfle i ymlacio ar draeth Dinas Dinlle cyn mynd draw i Rosgadfan. Ymwelwyd â Chae'r Gors, cartref Kate Roberts a chawsom bicnic yn y grug gan fwynhau panorama o olygfa a chwmni'n gilydd.
Daeth yn bryd ffarwelio â'r gogledd ac roedd cryn dawelwch a blinder ar y bws wrth deithio i'r Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth lle tywyswyd ni gan Llŷr. Cyrhaeddon adref tua 6 o'r gloch wedi blino'n lân ond wedi mwynhau mas draw. Diolch am brofiadau bythgofiadwy, fe'u trysorwn.
Gan: Hanna Lewis, Catrin Williams a Enfys Hatcher o Ysgol Gyfun Llambed
Cliciwch yma i ddarllen mwy am drefi a phentrefi'r gogledd orllewin sy'n cael eu henwi yn yr erthygl hon.
Cyhoeddwyd yr erthygl hon fel rhan o gynllun cyfrannu ar y cyd rhwng 91Èȱ¬ Cymru'r Byd ac Antur Teifi. Daeth y cynllun hwn i ben ar 31 Ionawr 2008.