Yn ystod ei phlentyndod treuliodd Eleri oriau lawer yn y plasdy, sydd bellach yn eiddo i'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol. "Roeddwn yn treulio lot fawr o benwythnosau a gwyliau ar y fferm ac yn y plasdy," meddai Eleri, gohebydd Chwaraeon 91Èȱ¬ Radio Cymru, a chyflwynydd y rhaglen Wawffactor ar S4C
"Mae gymaint o le yma fel oeddwn yn gallu rhedeg o gwmpas y lle. Oedd hi fel rhyw Alice in Wonderland!"
Mae Eleri yn lais cyfarwydd i wrandawyr 91Èȱ¬ Radio Cymru fel un o gyflwynwyr y rhaglen chwaraeon Sadyrnol, Camp Lawn.
Cyn gohebu bu Eleri ei hun yn cymeryd rhan ym myd y campau gan gynrychioli'r sir mewn hoci a chapteinio'r tîm rygbi yn y Brifysgol yng Nghaerdydd.
Yn ogystal â diddordeb ym myd y campau, yn ferch ifanc roedd Eleri yn cystadlu mewn eisteddfodau lleol a chenedlaethol.
Fe ymwelodd Eleri a Iolo â Chapel Neuadd Lwyd, lle fel ferch fach y dechreuodd adrodd a chanu.
"Dwi'n credu i mi ddechrau canu a sefyll o flaen cynulleidfa pan yn dair neu bedair mlwydd oed," medd Eleri.
"Roedd Capel Neuadd Lwyd yn le da i ddod yn gyfarwydd gyda'r sgil berfformio."
Y tu allan i'r Capel ceir cofeb i anrhydeddu dau aelod o'r capel, David Jones a Thomas Bevan, aeth i Madagascar fel cenhadon ym 1819.
Eleri oedd y ferch gyntaf i'w phenodi yn ohebydd rygbi ar 91Èȱ¬ Radio Cymru cyn mynd ymlaen i gyflwyno rhaglen Y Clwb Rygbi ar S4C.
Mae hi wedi cael cwrdd gyda mawrion y gêm, ac ymysg y rhai dyma'n creu argraff yw'r gŵr gododd Gwpan y Byd yn 1995 fel capten De Affrica - Francois Pienaar.
"Nes i gwrdd gydag ef pan oedd yn gysylltiedig gyda chlwb y Saraceniaid yn Llundain. Roedd e'n grêt, lot o sbort yn perthyn iddo fe a hiwmor ffraeth."
Gŵr arall bu Eleri yn mwynhau fod yn ei gwmni yw'r Albanwr Gavin Hastings, ond dyw hi dim yn ffan un o gyn gapteniaid Lloegr a gŵr fu'n rhaid dychwelyd yn fuan o daith y Llewod yn ddiweddar.
"Cwrddais gyda Lawrence Dallaglio unwaith - ond allwn i byth dweud ar gamera beth dwi'n feddwl ohono fe!"
Dwy flynedd yn ôl cafodd y cyfle i ddarlledu o Gwpan Rygbi'r Byd yn Awstralia, profiad y mae hi'n gyfri fel un o uchafbwyntiau ei gyrfa.
"Yr oedd hi'n freuddwyd cael bod allan yno, yn enwedig gan fod Cymru wneud mor dda.," meddai. "Roedd hi'n anrhydedd cael bod yn Gymraes ma's yn Awstralia. Allwn i fyw yno, dyne beth dwi ishe wneud. Mae'n lle ffantastig."
Proffeil o Eleri Siôn
Gwefan Aberaeron