Newid Byd Fe erys y flwyddyn 1947 ar gof yn sicr am dri rheswm, yn gyntaf y tywydd mawr a'r colledion a ddaeth yn ei sgil, yn ail y Sgolarship, ac yn drydydd mynd i'r ysgol fawr yn Nhregaron. Ar fore dydd Iau ddechrau mis Chwefror a finne'n mynd i'r ysgol, roedd hi'n bwrw eira ac erbyn tua un ar ddeg penderfynodd Miss Rees ein hanfon adre, a phawb wrth eu bodd. Yn ystod y pnawn cododd y gwynt gyda'r eira'n cael ei luwchio yn ddidrugaredd a'i yrru fel siwgwr eisin i mewn dan bob drws. Y diwrnod hwnnw bu'n rhaid i fi roi paraffin yn y lampau Tilley yn gynharach nag arfer gan iddi dywyllu'n gynnar. Fel arfer byddai tair o'r lampau'n mynd allan o'r tŷ - un i'r beudy, un i'r stabal ac un arall i'r sgubor - a chryfed oedd y gwynt fel i mi fethu cyrraedd y mannau hynny cyn bod y tair lamp wedi eu diffodd. Taniodd Nhad ac Alf ddwy ohonynt yr eilwaith wedi i mi gyrraedd y stabal a chanfuwyd fod mantl y drydedd wedi ei chwalu'n deilchion. Pan ddihunais fore trannoeth roedd fy stafell wely yn ddu fagddu fel bol buwch a meddyliais fy mod wedi deffro'n llawer rhy fore. Gorweddais yn dawel ar wastad fy nghefn rhag tarfu ar neb nes sylweddoli fod lleisiau'n dod o'r gegin. Dyma danio'r gannwyll a cheisio edrych allan drwy'r ffenest. Ond fedrwn i weld dim. Fodd bynnag, ar ôl gwisgo ac agor drws y stafell gwawriodd y rheswm dros yr holl dywyllwch pan sylweddolais fod ffrynt y tŷ i fyny at y to o dan eira! Mewn gwirionedd, roedd yna gymaint o fynydd o eira wedi ei luwchio fel y bu'r darn olaf yno tan yr wythnos gyntaf o fis Mehefin. Welais i erioed gymaint o eira, gyda'r beudy bron o'r golwg a dim sôn am glawdd yr ydlan na'r llidiart a arweiniai i'r cae bach. Roedd y gwynt yn dal yn gryf a'r eira'n cael ei luwchio ar brydiau fel na allem weld ar draws Cae Cefn Tŷ. Roeddem ni'r plant wrth ein bodd gan fod yr argoelion am wyliau ychwanegol o'r ysgol yn edrych yn ffafriol. Buom wrthi'n twrio yn yr eira er mwyn dod o hyd i'r ieir, a bob tro y byddem yn canfod iâr wedi marw, byddem yn mynd â hi i'r tŷ i'w dangos. Ni chafwyd hyd i'r ceiliog coch Rôd Eiland tan fis Ebrill pan ddaeth ei gorff i'r golwg o dan yr eira a bu'n rhaid magu ceiliog arall yn ei le. Bu Glenys wrthi am hanner diwrnod yn clirio'n galed nes cyrraedd y tŷ tatws gyda'r addewid y byddai Mam yn gwneud tships i ni os medrem ryddhau'r tatws. Noson fawr hyd yn oed o dan amgylchiadau arferol fyddai noson gwneud tships gyda ni'r plant yn awchu i grafu'r tatws ac yna ymladd am y ddysgl pan gaem ein galw at y bwrdd. Dros y penwythnos bu'n rhewi'n ddi-stop gyda'r canlyniad i'r tap dŵr wrth y drws cefn wrthod gollwng yr un diferyn. Am bron i chwe wythnos wedi hynny, buom yn cario dŵr bob dydd o bistyll Cornwal. Clywn fy nhad yn siarad â'r gweision ac yn gofidio am y defaid. Ychydig iawn oedd i'w gweld a'r lluwchfeydd erbyn hyn wedi caledu fel sment. Ychydig oeddem i wybod y penwythnos hwnnw y byddai dros hanner y ddiadell yn marw ac mai dim ond un rhan o ddeg o'r cyfri arferol o ŵyn fvddai'n clywed cân y gog. Darn o lyfr Charles Arch Byw dan y Bwa
|