Wedi i mam glywed bod C.D. gan Dafydd Iwan yn cyrraedd y siopau roedd rhaid mynd y funud honno i'w phrynu. Dyma 'r genedl a fyddai'n arfer dilyn perfformwyr Canu Pop cynta Cymru , pobl fel Huw Jones, Hogiau'r Wyddfa , a Hogiau Llandegai.
Yn fy marn i nid yw canu pop Cymraeg wedi symud ymlaen rhyw lawer ers y dyddiau cynnar yma.
Yn groes i'r graen rhaid oedd eistedd i wrando arni . Nid wyf i'n rhy hoff o wrando ar y math yma o ganu.
Rydym fel cenedl yn ymwybodol o gyfraniad Dafydd Iwan i'r canu ysgafn a chanu protest yng Nghymru ers pedwar degawd a'i ddylanwad ar yr iaith Gymraeg.
Y peth cyntaf a'm trawodd wrth edrych ar glawr y C.D. mor syml ydoedd, sef llun o'r canwr a'i enw wedi ei lofnodi ganddo yn ei lawysgrifen. Prawf nad oes rhaid wrth unrhyw gimig i werthu unrhyw C.D. gan Dafydd Iwan.
Agor y cas a gweld nodiadau ar y caneuon yn Saesneg. Mae hyn yn rhywbeth newydd a fedrai annog y di Gymraeg i brynu recordiau Cymraeg.
Wrth wrando ar y caneuon sylwais nad yw yr arddull, ar wahan i offerynnau ychwanegol gael ei adio at y gitâr ac ambell i gân yn cymryd tempo cyflymach wedi newid o gwbwl ers imi glywed rhai o recordiau cyntaf gan mam rai blynyddoedd yn ôl.
Un peth sy'n amlwg, mae Dafydd Iwan yn medru canu mewn tiwn trwy gydol y caneuon. Mae ganddo neges yn ei ganeuon nid gweiddi, neidio a sgrechian dros y llwyfan fel a welwn gan rai o'r grwpiau pop ein hoes ni.
Rydym yn cymharu Dafydd Iwan gyda chymreictod. Daw hyn i'r amlwg yn y gân "Wrth feddwl am fy Nghymru". Cân a gyfansoddwyd ganddo yn y 1960au. Mae ei ganeuon bob amser yn amserol ac yn oesol er engraifft 'Hawl i Fyw' sy'n delio â thlodi yn y Trydydd Byd. Ac er i'r lluniau ar y sgrin ein cyffroi i roi'n dwylo yn ein pocedi, dros dro yn unig mae'n haelioni'n para. Yr un yw hawl plentyn ym mhob rhan o'r byd, ond er gwaetha pawb a phopeth bydd hwn yn broblem sy gyda ni, ac a fydd gyda ni tra pery dynoliaeth.
Wrth wrando ar y caneuon gwelaf fod llawer o'r caneon yn deyrnged i bobl sy'n meddwl llawer iddo, pobl fel D.J., Mandela a Saunders Lewis .. Cenedlaetholwyr bob un.
Dim ond un beirniadaeth sy gennyf, mae'n drueni na fyddai wedi cynnwys rhai o ganeuon megis "gee geffyl bach" neu "cân Mrs. Thatcher" rhywbeth efallai i ysgafnhau'r gwrando.
Wrth ddod at ddiwedd gwrandawiad y C.D. rhaid imi gyfadde fy mod wedi cael fy hudo gan Dafydd Iwan ac yn medru gweld pam fod mam yn gymaint o ffan. Mae'n gas gennyf orfod cyfadde nad oes gennym ni, yr oes heddiw, neb a ddaw i esgidiau Dafydd Iwan. Trueni na fyddai'n trefnu taith er mwyn hyrwyddo'r C.D.
Tybed a fydd rhagor o "Oreuon Dafydd Iwan " yn gweld golau dydd cyn bo hir?
Adolygiad gan Dylan Davies
Darparwyd yr erthygl hon i wefan Lleol fel rhan o gynllun Cyfrannu ar y cyd rhwng 91Èȱ¬ Cymru'r Byd ac Antur Teifi. Am fwy o fanylion sut fedrwch chi gael £30 am ysgrifennu - cliciwch yma.