91Èȱ¬

Explore the 91Èȱ¬
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Bywyd Bro

91Èȱ¬ 91Èȱ¬page
91Èȱ¬ Cymru
91Èȱ¬ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

91Èȱ¬ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Timoedd pêl rwyd y merched a'r bechgyn Adolygu gêm bêl-rwyd
Natalie Moore yn adolygu gêm bêl-rwyd merched yn erbyn bechgyn yn Ysgol Gyfun Llambed i godi arian at elusen.
Pam?
Wedi i ddosbarth yn yr ysgol wneud sgwrs gwasanaeth am yr elusen 'Teenage Cancer Trust', penderfynodd merched a bechgyn blwyddyn 10 Ysgol Gyfun Llambed chwarae gêm pêl-rwyd yn erbyn ei gilydd er mwyn codi arian i'r elusen.

Lle a phryd
Yn iard waelod yr ysgol tu fas y cantîn amser cinio ar y bumed ar hugain o Fai.

Y chwaraewyr
Y chwaraewyrSaethwraig: Natalie / Fiona (Bechgyn) Shaun Jacobs
Gôl ymosod: Elin Jones /Emma Sturley-Davies (Bechgyn) Trystan Lloyd /Owen Thomas
Asgell ymosod: Hedydd Wilson /Angharad Evans (Bechgyn) Donal Davis
Canolwraig: Rhian Thomas (Bechgyn) Trystan Lloyd /Owen Thomas
Asgell amddiffyn: Ffion Davies /Beca Lewis (Bechgyn) Johnathan Davies
Gôl amddiffyn: Gwawr Bowen (Bechgyn) Rhydian Davies
Gôl geidwad: Caryl Thomas (Bechgyn) Rhydian Watkins
Darparwr dŵr: Martin Theodorou
Ffotograffydd swyddogol: Lowri Jones / Carys Thomas Shaun Brown
Dyfarnwyr Miss Nerys Phillips Mrs Kay Morris

Awyrgylch
Daeth nifer o ddisgyblion ac athrawon a noddwyd y chwaraewyr i wylio'r gêm. Diolchwn am eich cefnogaeth!

Gwisgoedd
Tîm y merchedRhaid sôn am wisgoedd y dau dîm. Gwisgodd y merched yn steil yr Indiaid Cochion ond defnyddiwyd rhubanau pinc yn lle coch! Hefyd gwisgwyd sanau hir streipïog - hosan wahanol ar bob coes! Thema gwisg y bechgyn oedd pêl-fasged steil Americanaidd.

Uchafbwynt y gêm
Gôl cyntaf Shaun- tipyn o gamp.

Beth sy'n aros yn y cof
Brwdfrydedd y dau dîm, braf oedd cael hwyl a sbri wrth godi arian at yr elusen.

Talent orau'r gêm
Tîm y bechgynI feddwl taw dyma tro cyntaf y bechgyn yn chwarae gêm pêl-rwyd rhaid eu gwobrwyo. Synnodd Rhydian Davies ei gyd chwaraewyr efo'i sgiliau rhagorol, da iawn ti.

Sgôr y gêm
2 : 1 i'r bechgyn. Llongyfarchiadau bois!

Swm o arian a godwyd
Amcangyfrir ein bod wedi codi £150 mor belled

Gair bach i ddiolch
Gwyddwn fod yr ysgol wedi rhoi'n hael iawn at yr achos da hyn, felly hoffai tîm y merched a bechgyn ddiolch o galon i'r rhai a noddwyd ni am chwarae'r gêm. Gobeithiwn fod yr arian a godwyd yn mynd i wneud gwahaniaeth i blant yr un oedran a ni sy'n dioddef o gancr.

Gan: Natalie Moore

Cyhoeddwyd yr erthygl hon fel rhan o gynllun cyfrannu ar y cyd rhwng 91Èȱ¬ Cymru'r Byd ac Antur Teifi. Daeth y cynllun hwn i ben ar 31 Ionawr 2008.


Cyfrannwch

Rhydian, Llanybydder
Iasu ges i y chwaraewr gore!! :-)

Fiona Davis o Lambed !!
Da iawn bawb!! cariad hiwj!

Hedydd Wilson, Llanybydder
nat, ma be t di sgwennu yn ffab! da iawn ti!:D trueni collo ni ond nath y bois yn dda iawn! cariad hiwjxxx

Gwawr Bowen
Da iawn Natalie, a ar ol cyfri'r arain £170.10 'sta ni.xxxxx

Lisa Elin o Lambed!!
Da iawn sis - erthygl gret!! gem ardderchog, ond nath y bois ennill :-(

Carys, Llanllwni!
Jiw, adolygiad brill da t fyna nat!!!Lico bo t d sôn am y gwasanaeth!!!o vn neud e!!!Lol!da iawn t Natalie!!!Da iawn chi gyd!!!xxx

Elen a Rhian, Llambed
Gem dda!! Da iawn BOIS!


Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Peidiwch â datgelu eich cyfenw os ydych o dan 16 oed.
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Lanymddyfri):

Sylw:




Mae'r 91Èȱ¬ yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
91Èȱ¬ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 91Èȱ¬ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý