Awyrgylch
Gyda thafarn y Cŵps wedi cau erbyn hyn, mae'n siŵr mai lawr llawr yn y Bae ydy'r ganolfan mwyaf tanddearol yn Aberystwyth i gynnal gig. Mae'n atgoffa rhywun rhywfaint o'r Cavern yn Lerpwl gyda ystafell hir a llwyfan yn y tu blaen a tho isel. Er fod y gynulleidfa'n gymharol fach ar y noson roedd awyrgylch eithaf da erbyn y diwedd.
Trac y noson
Roedd set Zabrinski i gyd yn arbennig o dda, ond y gân epig Il Gotten Game ar ddiwedd y set oedd y drac orau.
Y Perfformiadau
Gyda Cowbois Rhos Botwnnog yn tynnu nôl o'r gig ar y funud olaf, dim ond un band a DJ sydd i sôn amdanyn nhw.
DJ Blunt
Cafodd set estynedig gan fod un o'r bandiau wedi tynnu allan o'r gig a gwnaeth sioe dda ohoni. Amrywiaeth eang o ganeuon o ran arddull cerddorol a chyfnod. Roedd ei set ar y diwedd yn arbennig o dda wrth iddo gymysgu effeithiau technegol i'r caneuon
Zabrinski
Er nad oeddwn wedi eu gweld yn perfformio'n fyw ers peth amser, roeddwn i'n gwbod fod rhain yn fand da, ond ar ôl clywed eu set yn y Bae dwi'n meddwl eu bod nhw'n un o fandiau gorau Cymru ar hyn o bryd. Does dim syndod fod y Super Furry Animals yn ffans mawr ohonyn nhw.
Dechreuodd y set yn ddigon di-fflach gyda rhywun yn teimlo fod bach gormod yn mynd ymlaen, ond buan iawn y daeth i'r amlwg fod yr holl offerynnau'n ffitio mewn i'w gilydd yn berffaith. Rhyw dair cân i mewn cafwyd y caneuon Freedom of the Highway a Raid the Farm ac o hynny ymlaen roedd yn set gwych a hoeliodd sylw'r holl gynulleidfa. Mae adleisiau weithiau o'r grŵp mae nhw wedi cefnogi ar daith, sef y Super Furry's, ond mae'n nhw'n fwy arbrofol na rheiny os rhywbeth. Gobeithio y gwelwn ni lawer mwy o'r band yma'n gigio ledled y wlad.
Uchafbwynt y noson
Yn sicr, cân olaf Zabrinski, Il Gotten Game, sy'n gampwaith ac yn wych wrth ei pherfformio'n fyw. Mae'n dechrau ffwrdd yn weddol ambient cyn newid cywair yn y canol i gymysgedd tecno-dawns. Bendigedig.
Y peth gwaethaf am y noson
Bod dim mwy o bobl wedi manteisio ar y cyfle wylio'r band arbennig yma. Mae'n dorcalonnus fod well gan lawer o bobl fynd i 'barti-punt' gyda disgo yn hytrach na gig gyda band gwych lawr y lôn.
Beth sy'n aros yn y cof? Y goleuadau Nadolig oedd yn addurno'r llwyfan gan y prif fand.
Talent gorau'r noson
Zabrinski
Marciau allan o ddeg
7 allan o 10 (byddai'n 9 pe bai mwy o bobl yno)
Un gair am y gig
Alternatif
Gan: Owain Schiavone
Cyhoeddwyd yr erthygl hon fel rhan o gynllun cyfrannu ar y cyd rhwng 91Èȱ¬ Cymru'r Byd ac Antur Teifi. Daeth y cynllun hwn i ben ar 31 Ionawr 2008.
|