91Èȱ¬

Explore the 91Èȱ¬
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Bywyd Bro

91Èȱ¬ 91Èȱ¬page
91Èȱ¬ Cymru
91Èȱ¬ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

91Èȱ¬ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Richard James Adolygiad o gig Richard James
Roedd Richard James o'r Gorky's Zygotic Mynci yn perfformio yn y Cŵps yn Aberystwyth ar Ebrill 26, 2006. Roedd Owain Schiavone yno ...
Lle a phryd
Tafarn y Cŵps, Aberystwyth - 26ain Ebrill 2006

Y bandiau
Richard James, Pwsi Meri Mew a Steady Eddy Steady

Awyrgylch
Tywyll a tanddearol fel arfer yn y Cŵps. Roedd cynulleidfa dda yno o ddechrau'r noson a'r lle'n reit llawn erbyn y brif eitem gyda phawb yn ymateb yn dda i'r holl artistiaid.

Trac y noson
Gallen i enwi nifer o ganeuon Richard James gyda My Heart's on Fire yn gofiadwy, ond am ryw reswm Malu Awyr gan Steady Eddy Steady sy'n aros yn y cof fwyaf. Cân fachog gyda backtrack effeithiol.

Disgrifiwch y perfformiadau

Steady Eddy Steady:
Steady Eddy SteadyCanwr-gyfansoddwr cymharol newydd i'r sîn ydy Steady Eddy Steady a dwi'n cofio ei weld o'n perfformio dan yr enw Endaf Ilan rhyw flwyddyn nôl. Roedd ei set o'n dechrau ffwrdd mewn arddull acwstig draddodiadol gyda dim ond sŵn gitâr a llais ac mae hi wastad yn anodd dal sylw'r gynulleidfa fel hyn. Ar gyfer y caneuon olaf mi wnaeth o gyflwyno backtrack a roedd hyn yn creu sŵn llawer llawnach oedd yn creu mwy o argraff. Llais da a caneuon bachog.

Pwsi Meri Mew
Pwsi Meri MewMae Pwsi Meri Mew yn un o regulars Aberystwyth erbyn hyn yn perfformio yno'n gyson a fel arfer roedden nhw'n hynod o ffynci a hwyliog. Dechreuodd y set gyda cwpl o ganeuon acwstig swynol cyn mynd mewn i'w harddull ffynci/affrobitaidd adnabyddus. Roedd ychwanegiad y bongos ac effeithiau technegol gan Rhys 'Spikes' yn effeithiol. Y gan Gadael sy'n sefyll allan fel un o ganeuon gorau'r set.

Richard James
Mae Richard yn enw a wyneb cyfarwydd iawn i ddilynwyr cerddoriaeth, yn bennaf fel un o aelodau'r Gorkys Zygotic Mynci ac roedd yn amlwg wedi denu llawer iawn o'r gynulleidfa'n arbennig. Ni gawsom ein siomi wrth iddo roi perfformiad gwych yn cynnwys nifer o ganeuon o'i albwm newydd. Cerddoriaeth swynol a hamddenol gyda dylanwad cerddoriaeth gwlad yn amlwg. Roedd y gân Tir a Môr yn wych gyda'r gynulleidfa'n gwrando'n astud.

Digon o amrywiaeth yn arddull cerddorol y bandiau yn cynnal diddordeb y gynulleidfa.

Uchafbwynt y noson
Richard James yn perfformio yn Aberystwyth...oes angen gwell uchafbwynt?

Peth gwaethaf am y noson
Rhai pobl oedd yn mynnu siarad wrth y bar yn ystod y perfformiadau. Er nad ydy hyn yn beth anghyffredin mewn gigs yn Nghymru yn anffodus, mae'n dal i fod yn siomedig i'w weld.

Achlysur Roc A Rôl
Amser dechrau'r gig yn cael ei wthio nôl oherwydd trafferthion gyda'r trydan. Roedd ond y dim iddi fod yn gig acwstig unplugged!

Beth sy'n aros yn y cof?
Alaw hyfryd My Heart's on Fire.

Talent gorau'r noson
Richard James heb os, ond mae llawer o botensial i'r ddau arall.

Marciau allan o ddeg
9 - pob perfformiad yn ychwanegu i noson dda

Un gair am y gig
Hyfryd

Gan: Owain Schiavone o Aberystwyth

Cyhoeddwyd yr erthygl hon fel rhan o gynllun cyfrannu ar y cyd rhwng 91Èȱ¬ Cymru'r Byd ac Antur Teifi. Daeth y cynllun hwn i ben ar 31 Ionawr 2008.


Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Peidiwch â datgelu eich cyfenw os ydych o dan 16 oed.
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Lanymddyfri):

Sylw:




Mae'r 91Èȱ¬ yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
91Èȱ¬ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 91Èȱ¬ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý